The Celtic Literature Coỻective

Ymddiddan Lywelyn a Gwrnerth
Jes. MS 111 (Llyfr Coch Hergest)
col. 1026-1027

ỻewelyn agỽrnerth aoedynt deuseint
benydyaỽi yny traỻỽng ym powys. a
dyuot ygyt awenynt y teir aỽr diw-
ethaf or nos. ar teir aỽr kyntaf or dyd
y dywedut eu pylgeint acoryeu y dyd yam hyn-
ny. ac ysef y gỽelei lywelyn kudugyl gỽrn-
nerth yn gaeat. a thany wydyat paham oed
hynny. Sef awnaeth ynteu kanu eglyn,

Eiry mynyd gwynt am berth. kanys
creaỽdyr nef am nerth. ae kysgu
awna gỽrnerth,
Eiry mynyd duỽ ynbennaf. kanys attaỽ
gwediaf; nac ef kysgu nyaỻaf,
Eiry mynyd gỽynt am ty. kanys ỻefery
ueỻy; be*th ỽrnerth awna hynny.
Eiry mynyd gỽynt deheu. kanys traethaf
prif eiryeu: tebychaf yỽ mae angheu.
Eiry Mynyd gorwyn bro. detwyd paỽb ỽrth
ae ỻocho: creaỽdyr nef athdiangho,
Eiry mynyd gorwynn prenn. kanys
ỻafaraf amgen; nyt oess naỽd rac tynghet-
Eiry mynyd pob deuaỽt. rac gor- [uen
meil goual dyd braỽt. agaffaf i gymun yng-
Eiry Mynyd gwynt am ty. ka- [hardaỽt
nys ỻeuery ueỻy; och vymraỽt ae reit hyny.
Awendrut mi ath garaf. hyt ar duỽ y gỽ-
ediaf; ỻywelyn rywyr y kaffaf,
Eiry mynyd gỽynt am vrynn. kanys
creaỽdyr nef am mynn: ae kysgu y mae
ỻywelyn. Eiry mynyd gwynt de,
kanys traethaf prif eiryeu, nac ef kanu
vy oryeu. Eiry mynyd godysgeit. pan
droho gỽynt yngkylch pleit. awdost di pỽy
adyweit. Eiry mynyd ỻafar hy. ka-
nys kyrbỽyỻy veỻy: na ỽnn onys dywedy.
Eiry mynyd pob canherth. ageiff y voli
yn prytuerth: mae yma dy vraỽt gwrnerth.
Blaengerd gymhelri. ac ynni pob drut. ac
awen ym peri: beth wrnerth oreu ytti.
Blaencat pob deuỽt. a ỻafurnaỽt drut.
am vuched hyt dyd braỽt: goreu y keuesis
gardaỽt.

[1026]

=========================================

awendrut tec dy gampeu. ymae r ganon yth
eneu; dywet py gardaỽt oreu,
blaengar awen gỽynt ỽrth lynn. pan ym-
ladho tonn am vrynn. goreu yỽ bỽyt rac
newyn. Onyt bwyt nys kyrhaedaf. ac
amdwylaỽ naskaffaf; dywet beth awnaf
yna. Blaengerd gymhelri. ac ynni
pob drut. ac awen ym peri; dyro diỻat rac
noethi. Vyndiỻat mi ae radaf y duỽ y
gorchymynnaf: py dal yna agaffaf,
Arodych o da ympob attrec drut ymbreint
kadỽ dy wyneb: sef ykey ynnef ary ganuet.
Kyfliỽ dyd kanyth garaf. ardelỽ kerd kanys
keissyaf: ganduỽ py vn peth gassaf,
Bud ac awen achyffret. pan retto dỽfyr ar
anwaeret; gỽaethaf tỽyỻ trỽy ymdiret.
Tỽyỻ trỽy ymdiret os gỽnaf. ac y duỽ nas
kyffessaf; padial avyd arnaf,
Or gỽney dỽyỻ ymdiret. heb ffyd heb gre-
fyd heb gret; key benyt ar dy seithuet.
Kyfliỽ dyd mi ath gredaf. ac yrduỽ y govyn-
naf: nef py wed yd heniỻaf,
Nyt kyffelyb da adrỽc. pan ymladho gỽ-
ynt amỽc: gỽna da yrduỽ fef y diỽc.
Blaengar awen pob achles. retuaỽr go-
rwydaỽr ar tes: diwed pob peth yỽ kyffes,
awnelych obob dirdra o dỽyỻ athreis a
thraha; yrduỽ kyffessa ynda.

Tyssilyaỽ uab brochuael ysgithraỽc a
gafas yr englynyon hynn y gan br-
nerth yndyuot y gywiraỽ ygret brth lyw-
elyn sant y gytbenytaỽc. ac aelwir ym-
atcrec ỻywelyn agỽrnerth.


[1027]