Gỽasgargerd vyrdin yny bed,
Jes. MS 111 (Llyfr Coch Hergest)
col. 584-585
Gwr aleueir yny bed. a dysgỽyt kyn
seith mlyned; march marỽ eur-
dein gogled. Eryueis i owin owydyr
gỽynn. gan rieu ryuel degynn. myrdin
yỽ vy enỽ uab moruryn. Eryueis i owin
ogaỽc gan rieu ryuel eglỽc. myrdin yỽ
vy enỽ amheidỽc. Pan del gỽr gỽrthryn
yar olwyn du. y lad ỻoegyr ỻỽybyr wehyn.
chwerỽ wenỽyn yn amwyn. gỽynvrynn
wynvrynn eisiwyn erhy. hir neuet
giwet gymry. Ny byd diogeỻaỽr yg-
keỻaỽr ardudỽy arardalỽy kymry rac
arderchaỽc tỽrch toryf hy. Pandyuo
coch nordmandi y holi ỻoegyrwys treul
diffỽys. treth am bop darogan. casteỻ yn
aber hodni. Pan dyuo y brych cadarn
hyt yn ryt bengarn. ỻiwawt gỽyr treu-
liaỽt karn. penndeuic prydein yno pen
barn. Pandyuo henri y holi mur kas-
teỻ y deruyn eryri. galwaỽt gormes
dragweilgi. pandyuo y gỽynn gỽann
y holi ỻundein. y ar veirch nyt kein. ry
geilỽ ef deyrnas kaergein. Teneu ymes
teỽ y hyt. pandyuo yndeissyuyt. brenhin
gỽas gỽae aecryt. Mab auyd maỽr y
urdas. aoresgyn mil dinas. hoedel egin
brenhin o was. Kadarn ỽrth wann ad-
uot. gỽann ỽrth gadarn gordirot.
pennaeth handes gỽaeth oedyuot. Byt
a uyd bryt ỽrth uaỽrdes. yd bydant gỽra-
gedeint ỻaes vuches. bydant ỻu meiby-
onein eu kyffes. Byt a uyd bryt ỽrth yd-
es. yt wnaho taeaỽc yles. disgiwen bun
gỽrth bỽyth gỽas. Byt auyd a gorffenn
oet paỻant ieueinc rac adwyt. mei ma-
rỽ cogeu rac annỽyt. Byt auyd bryt
ỽrth erchỽys. yd adeilaỽr yn dyrys. heb
werth maỽr ni chaffaỽr crys. Byt avyd
bryt ỽrthlyeu. byỽ maỻ agỽaỻ arlannev,
torredaỽd geir achreireu eudiuanwaỽt
gỽir ỻetaỽt geu. gỽan ffyd bob eildyd
dadleu. Byt auyd bryt ỽrth diỻat. kyg-
[584]
=========================================
haws arglwyd maer chwiniat. gwacỻaỽ
bard hard esseiryat. diuannwaỽr gwyr
ỻetaỽr gỽat. Byt auyd heb wynt heb laỽ,
heb ormond eredic heb drathreulyaỽ. tir
digaỽn uyd un erỽ y naỽ. Pan dyuo yr
gỽyr heb wryt. ac yn ỻe y coet kael yr yt,
ympob hed gỽled agyuyt. pan uo kynuelin
gymyred. gỽyd gỽannwyn a ui. gỽedy
pennaeth gỽenỽyn. bydaỽt gỽaeth budelỽ
no chrowyn. duỽ merchyr dyd kyghorfen,
y treulyaỽr ỻafnaỽr arbenn. cudyant deu
ygkreu kyghenn. Yn aber sor yt uyd kyg-
hor ar wyr gỽedy trin treulitor; glyỽ gỽyn
ỻyỽ yn yscor. Yn aber auon y byd ỻu mon
eingyl gỽedy hinwedon. hir weryt arwryt
uoryon. Yn aber dỽfyr nwy deil duc yt
vi agnaho gỽidic. a gỽedy cat kyuarỻuc,
Cat avi ar hyrri auon. abrython dywor-
pi. gnaỽt gỽyr gỽhyr gỽrhydri. Yn aber
ydon peruor cat a phelydyr anghyuyon,
a gỽaet rud ar rud saesson wassaỽc dy
waed dywendyd am dywaỽt wylyon,
mynyd yn aber karaf ~~~
[585]