Buchedd Collen
Hafod MS. 19 (1536), p. 141.
Llyma ystoria kollen ai vVchedd kollen ap gwynoc ap kydeboc ap Kowrda ap Kyriadoc vyraich vyras Kyriadoc vyreichvyras a vyriwodd i vyraich yn gwnevthvr Addvc ac or byriw hwnw y bv vwy i vyraich nor. Hall ac am hyny y kelwid ef vyreich vyras ap llyr vyrenin hwnw a vv yn priod a margred verch iarll Rydychen. Mam gollen sant oedd Ethinen wyddeles verch vathylwch arglwydd yn y werddon yr arglwyddieth hono a elwir yrowan. Rwngkwc ar ethinen hono a gad o vn o law vorrynion y wraic briod ef ac anfoned ir ynys hon yw magv. Ar nos y kad kollen. Ef a welai i vam Dyrwy i hvn glomen yny hedec tvac ati hi ac yni byrathv hi dan ben i bron ac yn Tynv i chalon allan ac yny hedec a hi tvar nef ac or lie yr aeth a hi yn dyvod a hi ac yni.
Hyroddv i mewn ir lie y dynasai ac yn i gosod yny lie dynasai gida gerogle tec ac yna y glomen aeth oi golwc hi. Ar kollen hwnw ir yn vab seithymylwydd a vv yn dysgv gwysynevthv duw ar arglwyddes vair y bv. Ef heb orffowys ac yni vabolaeth ef aeth i orlians a ffyraink i ddysgv ac yno ybv gollen chwemis ac yn yr amser hwnw yr roedd svlan ap postat yn Ryvelv gida gwyr griy a mynych rryvel oedd ar wyr Rvfain ar rryved ryvel oedd rryngthvnt ar kristynogion a lladd. Llawer or kristynogion ac yni gyrv i ff o yn vynych o amserr ac yn yr amser hwnw y doeth gwr a elwid byras a dywedud y kymerai ef ari law ymladd yn enw y ffydd a hwynt yp pykanied ar roe yr vn gwr i ymladd ar vn gwr aroe y kristynogion ac yna kytvno a wnaeth y pab ar beri erbyn dydd byr vn gwr i ymladd yn enw ffydd grist ac addyvod y pegan pa vn bynac a gaer gore kyredv or ddwy bylaid i hwnw ac yw ffydd ar hyny yr aeth y pab i ostegv i wyr ai nekav a naeth pawb. Ef a thyrwm a thyrist yr aeth ar y pab hyny a myned a naeth lie yr oedd ddelw yr arglwydd Jessu grist ar y groes a dywedud val hyn o tyti y gwir dduw mae dy gyngor ac ar hyny y doeth lief vwch i ben yn erchi iddo vo vyned i borth hantwn ar kynta agarwydde aoc ef mai hwnw oedd val y mynai dduw yw Roi drosto i ymladd a myned anaeth y pab ar dyraws y mor a thir hyd yno y porth. A ffan ddoeth yno ef a welai wr addwyn ar gwr hwnw oedd gollen am mynegi anaeth y pab iddo i ddamvniad iddo a chyroesawy a anaeth kollen neges yn anrryddvs a dyw wedud duw adyvod gida gef hyd ymaes a osodesid ar gwr a elwid byras a ddoeth yno ai bylaid yni gylch ac am i ben basyned ac y yng horvn y vasyned yr oedd eli gwyrthyvawr. Ac erchi i anaeth i gollen ddyvod nes i ymladd ac ef. A chollen a gymerth i gledde ynoeth ac a roes yvengil ir groes y kyledde ac yna y tyrowsant i gyt ac yna y byriowodd ychyd die arr law kollen gantho vo yr hwn a elwit byras ac yna y keisiodd y pygan gan gollen ym Roi a chyredv yw dduw ef ac ef ai gwnai ef yn Jach or byriw yn yr awr hono ar eli gwyrthyvawr oedd gidag ef ac yna y tynodd byras y bylwch ar eli ac ai roes yn llaw gollen A chymervd peth or eli anaeth kollen ai rroi ar y byriw ac Jach vv yr awr hono Ac yna kymervd y bylwch ar eli ai davylv yn yr Avon Rac kael or vn ohonvnt or lies oddiwrtho. Ac yna y tyrowsan ynghyd yr ail waith ac y tyrewis kollen ef dan i gesel oni welit i av ai ystgyvent ac yntef aeth ir llawr. Ac yna y dyvod byras kollen dy nawdd na chai myn dail heb kollen ac yna y dyvod byras wrth gollen oni chaf vi myvi ath vilia di gar byron duw y gorvchaf dduw yr hwn y kyredi di iddo ac y kyredaf vinef yr awr hon dy voti yn gwnevthvr kam am vyvi a mi a vynaf vymeddyddio pellach val y gallwyvi gael Ran or llywenydd ysydd ym yradwys nef gida thydi ar geirie hyn a ovynodd kollen yn vawr ac yna yroes kollen nawdd iddo ac yna y bedyddiodd y pab ef ac yna y kyredodd holl gennedyl y grix ac y bedyddyiwyd hwynt oil Ac yna Achwedi kael y gore o gollen ef a gymerth iganiad igan y pap ar pab ai rroddes ac a roddes Grair iddo nid amgen nor lili a vylodevodd garbyron ypekanied pan ddyvod vn o honvnt nat oedd wirach eni mab ir vorwyn no bod y y lili kyrinion ysydd yny pot akw a bylodav tec arnvnt Ac yna y bylodevodd y lili hwnw ar lili hwnw a roes y pab i gollen Ac yna y dvc kollen ef ir ynys hon ac yvo a ddywedir Mai ynghaer ivyrangon y mae y lili hwnw eto ac yna ydoeth kollen i geirniw i dir ac oddyna y doeth i vynachyloc glansymbyri ac y gwnaethbwyd ef yny kyrevydd ac ni bv yno ondyri mis oni ddeffoled ef yn abad Ac yna y kymerth ef ganad i bylwyf i ddwyn bvchedd a vai drymach a chaledach no bod yn Abad ac yna yraeth ef i byregethv ac i edyrech perygler ffydd gytholic ymysg y bobyl Ac y bv ef yn pyregethv geirie duw ar ffydd gytholic ymysg y bobyl a hyny dair bylynedd ac y doeth ef hyt yr vn lie ir vynachyloc ac yno y bv ef bvm mylynedd yn dyrigo ac yna y llidiodd ef wrth wyr i wlad am i kamav ac a roes i velldith vddvn Ac yna yr aeth i vynydd glassymbyri ac anaeth yno gvddigyl dan ebach kareg mewn lie dirgel oddiar y ffordd.
Ac val yr oedd ef ddiwyrnod yni gvddigyl ef a glowai ddav ddyn yn siarad am Wyn ap ynvdd ac yn dywedvd Mai hwnw oedd vyrenin anwn ac estyn anaeth kollen i ben allan ol gvddigl a dywedvd tewch yn wan ni does or hai hyny ond kythyrelied taw di heb yr hwyntav ti a gai yn wir ymliw a thi gan hwnw A chav y dyrws anaeth kollen Ac yn lleiges ef a gylowai kyn igori drws kvddigyl vn yn govyn a oedd y gwr o vewn yna ydyvod kollen ydwyf pwy ai govyn myvi sy ganad i Wyn ap nvdd brenin Anwn i erchi iti ddyvod i mddi&an ac ef i ben y byryn erbyn haner dydd yvory. A chollen nid aeth Athyranoeth llymar vn ganad athyrwsiad ar naill haner yn goch ar Hall yn las amdano yn erchi i gollen ddyvod i ymddian ar brenin i bryn erbyn haner dydd dyranoeth A chollen nit aeth llyma yr vn ganad yn dyvod y dyrydedd waith yn erchi i gollen ddyvod imddian ar brenin haner dydd ac oni ddoi kollen ti a vyddi waeth A chollen yn ovynoc yna a godes i vynv ac anaeth ddwr bendiged ac ai roes mewn pisser ar i glvn ac aeth i ben y byryn Affan ddaeth yno ef a welai y kastell teka ar a welsai irioed a meirch a bechin yni marchogeth ar i kevyne a gore pwynt i meirch ac ef a welai wr addywyn ar vn van y gaer ac yn erchi iddo ddyvod i mewn a dywedud vod y brenin yn i arcs am i ginio A dyvod anaeth kollen i vewn y kastell affan ddoeth yr oedd y brenin yn eiste mewn kader o avr A chyroesawv kollen a wnaeth y brenin yn anrrydeddvs ac erchi iddo vyned i vwyta ir bwrdd ac yna y dyvod kollen wrth y brenin ni vwytaf vi ddail y koed heb kollen heb y brenin A welaisti wyr gwell i tyrwsiad no rain yma heb y brenin o goch a glas heb kollen da ddigon yw i trwsiad ynhw or rryw drwsiad ac ydiw heb kollen par y ryw trwsiad yw hwnw heb y brenin ac yna y dyvod kollen koch y sy or naill dv arwyddokav 1 llosgi ar tv glas y sy yn arwyddokav mai oerni yw Ac ar hyny y tynodd kollen isiobo allan ac a vwriodd y dwr bendiged am i pene ac ar hyny yr aethant ymaith oi olwc ef hyd nad oedd yno yr vn na chastell na dim ond y twmp pathe gleision Arr noson hono y doeth adref yw gvddigyl ac y gweddiodd ar dduw am gael lie i barseddv Dra vai vyw Ar noson hono i kavas ef rrybvdd oddiwrth dduw i erchi iddo godi y bore dyranoeth a cherdded oni gyvarvydde ac ef varch ac yna marchogeth hwnw a chimynt ac a varchoge yn gwmpas yny dydd hwnw a dywedud mai hyny vydde i noddyva ai bylwy ef hyt dydd byrawd Ac velly y kyvarve ac ef y march yn y lie a elwir rrysva Maes kad varch ac ai Marchogess ef yn gwmpas i bylwy ac ynghanol y noddyva hono y gwnaeth ef gvddigyl ac yn y kvddigyl hwnw y bv gollen tra vv vyw ac yn y kvddigl hwnw y kyladdwyd kollen ac yr aeth i enaid ir llywenydd Tyragwyddol ac y mae yn sant ynyn ef yn gwnevthvr gwyrthiav yny yr awr hon Affan oedd ef ar y ddaiar hon yn dwyn kic a chynawd yr oedd yn gwnevthvr gwyrthief mawr o achos i ffydd Ac velly y tervyna bvchedd gollen.