Yspeil Taliessin
Llyfr Taliesin XXXVII
Eg gwrhyt gogyueirch yn trafferth
gwaetwyf a wellwyf yn kerth wir.
gweleis i rac neb nym gweles
pop annwyl. ef diwyl y neges.
Gweleis i pasc am leu am lys.
Gweleis i deil o dyuyn adowys.
Gweleis i keig kyhafal y blodeu.
Neur weleis vd haelhaf y dedueu.
Gweleis i lyw katraeth tra maeu
bit vy nar nwy hachar kymryeu
Gwerth vy nat mawr uyd y uud y radeu
pen maon milwyr am de. preid lydan
pren onhyt yw vy awen gwen
yscwydawr y rac glyw gloyw glas gwen
glew ryhawt glewhaf vn yw vryen.
nym gorseif gwarthegyd. gordear
goryawc gorlassawc gorlassar
goriaga gordwyre. Pop rei
sag dilew du merwyd ymordei
vd tra blawd yn yd el oth vod.
Vared melynawr yn neuad
maranhedawc diffreidawc yn aeron.
mawr y wyn y anyant. Ac eilon
mawr dyfal ial am y alon.
mawr gwrnerth ystlyned vrython.
mal rot tanhwydin dros eluyd.
mal ton teithiawc llwyfenyd.
mal kathyl kyfliw gwen a gweithen
Val mor mwynauawr yw vryen.
Vn y[w] egin echangryt gwawr.
Vn yw rieu rwyfyadur a dyawr.
Vn yw maon meirch mwth miledawr.
Dechreu mei ym powys bydinawr.
Vn yw yn deuwy pan ofwy y weirin.
Eryr tir tuhir tythremyn.
Adunswn y ar orwyd ffysciolin.
Tut ynyeil gwerth yspeil taliessin.
Vn yw gwrys gwr llawr a gorwyd.
Vn yn breyr benffyc y arglwyd.
Vn yn hyd hydgre yn diuant.
Vn yn bleid banadlawc anchwant.
Vn yn gwlat vab eginyr.
Ac vn wed ac vnswn katua ketwyr
Vnswn y drwc yieaian.
A cheneu a nud hael a hirwlat y danaw.
Ac os it yt wydif ym gwen
Ef gwneif beird byt yn llawen.
kyn mynhwyf meirw meib gwyden
Gwaladyr gwaed gwenwlat Vryen.