Y gofeissvys byt
Llyfr Taliesin XXVI
Y gofeissvys byt. Bu deu tech arwlat gwledychyssit.
Bu haelhaf berthaf or ryanet.
Bu terwyn gwenwyn gwae y gywlat.
Ef torres ar dar teir gweith ygkat.
Ac ef ny vyd corgwyd y wlat dar plufawr
Pebyr pell athrechwys coet gyrth y godiwawd
Alexander. yn hual eurin gwae a garcharer
Ny phell garcharwyt. agheu dybu
Ac lle ef kafas ergyr o lu
Neb kynnoc ef ny darchawd
Myuwed bed berthrwyd or adwyndawt
Hael alexander ae kymerth yna.
Gwlat syr a siryoel a gwlat syria
A gwlat dinifdra. a gwlat dinitra.
Gwlat pers a mers a gwlat y kanna.
Ac ynyssed pleth a phletheppa.
A chiwdawt babilon ac agascia
Mawr a gwlat galldarus bychan y da.
Hyt yd ymduc y tir tywarch yna
Ac yt wnahont eu bryt wrth eu helya
Y wedant gwystlon y europa.
Ac anreithaw gwladoed gwyssy oed terra.
Gwyrthyr gwenynt wraged gordynt yma.
Bron loscedigyon gwyled gwastra.
O gadeu afor pan atrodet
Digonynt brein gwneint pen brithret
Y milwyr mageidawn pan attrodet.
Neu wlat yth weisson ti pan diffydet.
Ny byd yth escor escor lludet.
Rac gofal yr hual ae agalet
Milcant riallu a uu varw rac sychet.
Eu geu gogwilleu ar eu milet.
As gwenwynwys y was kyn noe trefret.
Kyn no hyn bei gwell digonet.
Ym harglwyd gwlatlwyd gwlat gogonet.
Vn wlat ior oror goreu ystlyned.
Diwyccwyf digonwyf poet genhyt ty gyffret.
Ar sawl am clyw poet meu eu hunet.
Digonwynt wy vod duw kyn gwisc tytwet.