The Celtic Literature Collective

Englynion y Misoedd
various mss; see below for mss and attributions

Mis Jonawr, myglyd dyffryn,
blin trulliad, trallawd klerddyn,
kul bran, anaml llais gwenyn,
gwac buches, diwres odyn;
gwael gwr anwiw i ofyn;
gwae a garo i dri gelyn;
gwir a ddyvod Kynvelyn
"gorev kannwyll pwyll i ddyn."

Mis Chwefrol, anaml ankwyn,
llafurus pal ac olwyn;
knawd gwarth o fynych gysswyn;
wae heb raid a wnel achwyn;
tri ffeth a dry dryg-wenwyn,
kyngor gwraic, murn, a chynllwyn;
pen ki ar vore wanwyn;
gwae a ladodd i vorwyn;
diwedd dydd da fydd i fwyn.

Mis Mawrth, mawr rhyfic adar,
chwerw oerwynt ar ben talar;
hwy vydd hindda no heiniar;
hwy pery llid no galar;
pob byw arynaig esgar;
pob edn a edwyn i gymar;
pob peth a ddaw drwy'r ddaiar
ond y marw, mawr i garchar.

Mis Ebrill, wybraidd gorthir,
lluddedig ychen, llwm tir,
gwael hydd, gwareus clusthir;
knawd osb er nas gwahoddir;
aml bai pawb lle nis kerir;
gwyn i fyd a vo kowir;
knawd difrawd ar blant enwir;
knawd gwedi traha tranck hir.

Mis Mai, difrodus geilwad,
klyd pob klawdd i ddigarad;
llawen hen diarchenad;
hyddail koed, hyfryd anllad;
hawdd kymod lle bo kariad;
llafar koc a bytheiad;
nid hwyrach mynd i'r farchnad
croen yr oen no chroen y ddavad.

Mis Mehevin, hardd tiredd,
llyfn mor, llawen marianedd,
hirgain dydd, heinif gwargedd,
hylawn praidd, hyffordd mignedd;
Duw a gar pob tangnevedd,
Diawl a bair pob kynddrygedd;
pawb a chwennych anrrydedd;
pob kadarn gwan i ddiwedd.

Mis Gorffennaf, hyglyd gwair,
taer tes, toddedig kessair;
ni char gwilliad hir gyngrair;
ni lwydd hil korff anniwair;
llwyr dielid mefl mowrair;
llawn ydlan, lledwag kronffair;
gwir a ddyvod mab maeth Mair,
"Duw a farn, dyn a levair".

Mis Awst, molwynoc morva,
llon gwenyn, llawn modryda;
gwell gwaith kryman no bwa;
amlach das no chwarwyva;
ni lafur ni weddia,
nid teilwng iddo i fara;
gwir a ddyfod Sain Brenda
"nid llai kyrchir drwc no'r da".

Mis Medi, mydr ynGhanon,
aeddfed oed yd ac aeron;
gwae gan hiraeth fy nghalon;
golwg Duw ar dylodion;
gwaetha gwir gwarthrudd dynion;
gwaetha da drwy anudon;
traha a threisio gwirion
a ddiva yr etifeddion.

Mis Hydref, hydraul echel,
chwareus hydd, chwyrn awel;
knawd ysbeilwyr yn rryfel;
knawd lledrad yn ddiymgel;
gwae ddiriaid ni ddawr pa wnel;
trychni ni hawdd i ochel;
angau i bawb sy ddiogel,
amau fydd y dydd y del.

Mis Tachwedd, tuchan merydd,
bras llydnod, llednoeth koydydd;
awr a ddaw drwy lawenydd,
awr drist drosti a dderfydd;
y da nid eiddo'r kybydd,
yr hael ai rhoddo pieifydd;
dyn a da'r byd a dderfydd,
da nefol tragwyddol fydd.

Mis Rhagfyr, byrddydd, hirnos,
brain yn egin, brwyn yn rhos,
tawel gwenyn ac eos;
trin yn niwedd kyfeddnos;
adail dedwydd yn ddiddos;
adwyth diriaid heb achos;
yr hoydl er hyd i haros
a dderfydd yn nydd a nos.

SOURCES
Jackson, Kenneth. Early Welsh Gnomic Poems. Cardiff: University of Wales Press, 1935. p. 37-40

Manuscripts: for the complicated history of the poem in these manuscripts, please see the above book. Llan 117 p. 84 - Jeuan ap William 1545
Pen 99 p.547 - Wm. Salesbury
Pen 65 p.190 - Owen John late 16th C.
BM Addl. 14885, f.97 - late 16th
Wrexham 1, p.267 - John Brooke 1590
Pen 111 p.103 - John Jones 1610
Cwrt Mawr 6, p.84 - Richard teh Scribe 1692
BM Addl. 14873 p.80 - Wm. Morris 1739.
BM Addl. 14878 f.35 T. ap Ivan 1692
Panton 18 f.59 Evan Evans 1769
Panton 1, f.285 EE 1775
Panton 33 p. 107.

Attributed to:
Aneirin/Aneirin Gwawdrydd: Addl. 14873, Pen 111 (end), Cwrt 6, Panton 33

Merddin "Gwowdrudd": Llan 117, Pen 111 (beginning), Addl. 14878 (w/gloss on Aneirin)

Mab Cloch/Mab Claf ab Llywarch (an invented name): Wrex 1

Syppyn Cyfeiliog: Panton 18, 1