Arthur a Kaledvwlch
Llanstephan MS 201
late 14th century
...iddi gyfran oi dyrnas [tra vai] ef vyw, Ag ymhen ychydic o am ser [gwedy hynny] y peris ef darparu gwled i wyrda [yr] ynys ac yny wled honno y priodes [ef Eygyr ac] y tagnoueddod genedyl Gwr [leis ai gedymddei] thon o gwbyl. Dwy verchet [a oeddynt i Wrleis] o Eygyr nit amgen [Gwyar a Dioneta. Gwyar] a oedd yn weddw [yn llys i that a Hywel y mab] y gyt ahi gwedy [rnarw Ymerllydaw i gwr] priot. Ac Uthyr [a beris i Leu vab Kynvarch] i phriodi a phlant [a gowsant nit amgen no] deu vab Gwa[lchmei a Medrawt a thair mer]chet Gracia G[raeria Dioneta. y verch arall] in twyssawc a [beris Uthyr yn ynys Avallach] a honno a vu gyw[reinaf dyn yn seith gel]vyddyt vyddyt yn vu oes a[hi. A phan ddarvu y wled] a chymryt o bawp eu [kanyat y nessaodd Myr]ddin at Uthyr ac y dy[vawt wrthaw val hynn] Arglwyd heb ef dieu yw [y mae drwy vyng] hannorthwy i y keueist di dy [ewyllys hyt] hynn ymhob lle wrth hynny [tal ym vy] llauur yny modd i haddeweist ym. Mi ai talaf yn llawen heb yr Uthyr Arglwyd heb y Myrddin y mae Eigyr yn[awr] yn veichioc yr y nos y kysgeist y gyt a hi ynghastell Dindagol a phytiued bynnac a ye ytti ni chymerir yn yr ynys yn etiued itti o achos y gael kyn nor briodas. Wrth hynny keler yn dda hyt pan aner, ac yna [rhodder] attaf vi, a mi a baraf i veithrin yn am [geleddus ddirgele] dic hyt na ddel kewilyd nac [itti nac ir Arglwyddes] ac ef a allai y mae yr etiued [hwnnw a lywio y kyvoeth] yth ol. Ac Uthyr y nos [yn i wely a ddyfot wrth] Eygyr yn y mod y dys [gassei Vyrddin iddaw. Tebic] yw gennyf heb of dy [vot yn veichioc.] Arglwyd heb yr Eygyr dy [nawdd a archaf a mi a] vynagaf wirioned [Pan yttoeddwn i ynghastell] Dindagol ath lu [dithau ynghylch y kastell] ydd oed Wrleis [yntaw y doeth attaf i mewn] trywyr yn vn1 [ffuryf a Gwrleis a hwnnw a] gysgod y gyt a mi y nos [honno a phann aeth ef] ymaith drannoeth y ged [ewis ef vyvi yn] veichioc. Gorev kynghor a [wnn i Tewi heb] yr Uthyr hyt pan aner ac [yna mi ai] hanvonaf yr lle y caffo i veithrin yn anwyl; ac ar hynny y trigassant yni anet mab tec, a chenhat a gyrchod ac ef hyt yn llys Kynyr Varvoc Arglwydd Penllyn a llythyrev Uthyr a rai Myrddin gantho a phan ddoeth ir llys y dodes y mab ger bron Kynyr ar llythyrev yn i law a Chynyr a agores ac a darlleodd y geiriav hynn. Y mae Uthyr Bendragon benn y Brytaniet yn anvon annerch a gwin arglwyddiaeth y Gynyr Varuoc atnabyddet dy gynddrycholder di erchi ynn drwy vy hun mynet allan oddieithyr drws yr ystauell a pha eneidiawl bynnac a welwn yno peri i veithrin yn annwyl wrth hynny mi a orchymynnaf ytti peri meithnin y mab a gowsom ni [yno ac ydd ym] yn I anuot attat ti a hynny [an laeth bronneu] dy wraic dy hun a pheri [mamaeth arall ith] vab ditheu. A gwedy [darvot i Gynyr darllen y] llythyneu kymryt y mab [a oruc a pheri i vedyddio] al henwi Arthur [ai veithrin yni yttoedd] bedenblwyd ar ddec [yn y mod ydd erchyssit] iddaw o gwbyl. Uthyr [Bendragon a wledychodd] yn yr ynys honn hynny [o vlynydded o gw]byl a merch a vu iddaw [o Eygyr a] elwitt Anna ac yny bedwaredd [vlwyddyn an ddec yn] wythnos wyl Marthin y tenvynwyt ar Uthyr Bendragon yny mod ytneithir yn Ystoria y Brytaniett. A gwedy marw Uthyr yd ymgynullasant ygyt wyrda yr ynys hyt Ynghaer Vuddai rac bronn Dyffric Archescob i ymgynhori ac ef pwy a wnelynt yn vrenin i lywio y dyrnas ac i edrych pwy a allai vott o voned a moessau a chedernyt yn vrenin canys dieu oed ganthunt varw Uthyr yn ddietiued oi gorff onyt merch; ac angen a oed yn eu kymell i hynny nit amgen non Saesson a gyfleassai Gwrtheyrn Gwrtheneu yn yr ynys honn a pha glowssant varwolaeth Uthyr yddanvonassant gennadeu i Germania ynol eu kenedyl ac y gorysgynnyssant or ynys o Aber Hvmyr hyt mor Katneif. A gwedy gwarandaw o Ddyffrig an berigl y deyrnas ae govit kyt ddoluriaw a oruc ar bobyl a galw attaw esgyb y deyrnas ae phenadurieit ac erchi vddunt mynet i ddethoi brenin arnunt yn enw Duw. Ac yna dechreu traethu bob eilwers a orugant a phob un yn i gyveir a etholes i gyfnessaf ehun neu y neb mwyaf a garai. Ac velly drwy aghytvndeb ni chat neb a allai dderbyniet yr anryded hwnnw drwy gytsyniedigaeth kyffredin. Ac yna ystyriet a wnaeth Dyffric ar drallawt y bobyl a meddyliaw geirieu Crist yn yr euengil Pob teyrnas awahaner ynddi ehun a ddistrywir. Ac yddoed ef yn gwelet y kyuoethogyon yn koddi y tlodion a chedyrn yn treissiaw y gweinieit. Ac enwir yn tremygu kywir o eissieu kywirdeb a llywodraeth. Ac yna o gytgyngor govyn i Vyrddin pwy a etholynt arnunt yn vrenin kanys ef ai dysgassai ddwywaith kyn no hynny. Ac yna y dyuot Myrddin na weddai iddo ymyrru ar neges gymeint a honno nac mor danbeit a hi, ac yr hynny heb ef kynghor a roddaf ywch o byddwch wrthaw. Ac yna yddaddawssant hwy bot wrth y kynghor a roddei ef vddvnt. Arglwyddi heb y Myrddin yn y lle wedy gwyl Marthin y bu varw Uthyr bendragon Ac agos yw hynn ir nodolic kyfenw ir dyd y doeth Krist vn mab Duw ir byt ovrv yr arglwyddes Vair wyry o wirvawr gariat y bobyl yr hwnn yssyd arglwyd ar yr arglwyddi a brenin ar y brenhined yr hwnn a vvyddhaa gwan a chadarn iddaw rac yr hwnn nit oes ford i fo ir neb a wrthwynepo yr hwnn nit edrych personoliaeth ddynion onyt eu kallonnev wrth hynny ymgyweirieit bawb ac ymlanhaet ohonoch erbyn y dywededic amser hwnnw a deuwch ir eglwys ygyt a gweddiwch Dduw yn ddidramgwyd ar ddangos o hono ef pwy a vo teilwng ywch llywio ac os yn dda yddymddiriedwch yr arch a ganhiedir ywch. Kanys ef a ddyuot adolygwch kymerwch keissiwch a chwi ai kewch. A gwedy darvot i Vyrddin traethu yr ymadrod hwnnw kymryt knnat ygwyrda i vynet tu ai wlat a oruc. Ac yna diolwch a wnaethant hwy yn vawr iddaw ef i gyngor ac adolwc iddaw ef drigyaw gyt ac wynt y Nadolic ac ni thrigyawd ef ac nit eddewis ddyuot erbyn yr amser hwnnw o achos dyd oed y ryngthaw a Blasius esgob i dat eneit ef ac ysgrivennyd cwbyl oi broffwydolaethev. A mynet a oruc Myrddin yw wiat. A nos Nodolic yddymgynullawd i gyt cwbyl or dyrnas gwan a chadarn kyuoethawc a thlawt. Ac yno y doeth Kynyr Varvoc a Chai i vab ygyt ac ef, ac ni wyddiat Arthur na ba Gynyr vai i dat ai anrydeddu a wnai yny mod y dylyei vab anrydeddu i dat. A phan ganod y keilioc gyntaf kyuodi a wnaeth pawb a mynet ir eglwys ar Archesgob a ddechrevod y gwassanaeth ac a erchis i bawb weddiaw Duw yny mod yddarchassai Myrddin. Agwedy pylgeint yr archesgob a wisgod amdanaw ir efferen gyntaf ac y dyvot wrth y bobyl Arglwyddi heb ef tri pheth ynt anghenreit yn eu kael Iechyt on eneittieu a llwvddiant ar y korfforoed a brenin yn llywio ac nit oes ford i gael yr vn o hynny drwy nerthoed eynym yn hun wrth hynny erchwch ir neb y gwnair pob peth yn i henw ac ni ellir gwneuthur dim hebddo ac yni vo ef an gwarandawo dywetet pawb pumweith y weddi a ddysgod Crist yw ddisgyblon. Agwedy tervynu ar y geirieu hynny yr efferen a ganwyt hyt gwedy yr euengil. Ac yna yddoed y nos yn yrnwahanu ar dyd arai kyntaf a offrymod a aethant allan oddieithyr yr eglwys y vas gwastat a oed o vewn pyrth y vanachloc; ac ymherved y maes hwynt a arganvuant maen mawr pedrogyl vn lliw a maen marmor ac yny maen yddoed kleddyf yn sevyll yn wysc i vlaen yn gyn gadarnet a phai or maen ybai yn tyuu. Ac ynghylch y kleddyf yddoed gwersev yn ysgrivenedic o lythyr eurait nit amgen:
Synnwyr y gwerseu hynn yma: y cleddyf hwnn yssyd arwyd y ddangos brenin teilwng gerbron Duw. Ni thyn neb y cleddyf onit vn oblegyt Duw. A gwedy darllein yr ysgriven anvon kenadeu yr eglwys a orugant y vynegi y damwein hwnnw ir archesgob. Ac yna meddylio a oruc yr archesgob panyw Duw, a anvonassai yr arwyd hwnnw a chyrchv tu ar lle yddoed y maen yn ddianot a chyffredin y bobyl y gyt ac ef a bwrw dwuyr bendigeit arnaw ac addoli i Dduw a wnaethant a gorchymvn i bump or ysgolheigyon gorev a phump or lleygyon kadw y maen hyt pan ddarfei yr efferen a than ganv moliant i Dduw yr eglwys a gyrchassant. A gwedy darvot yr efferen ymchwelut lle yddoed y maen a orugant ac ymogyuuchiaw y ryngthvnt pwy gyntaf a dynnei neu a ddylyei proui tynnv y cleddyf or maen. Rai o naddvnt a vynnynt hynny o achos en gallv ereill oi pryt ai kedernyt ereill o amylder kenedloed. Ac yna pan weles Dyfric y gynvigen y dyvot wrth y bobyl, O vyng heredigyon i kyt lawenhau a ddylywn heddiw gerbron Duw: achos euo oi wiruawr drugared yngoruchel eisteddua yny nef yd derbynniod yn gweddi ni yma attaw ef. Ac wrth hynny mi a adolygaf ac a orchymynnaf ywch or meddiant mwyaf yssyt i mi i gan Dduw, na nessaet neb ar y dwyuawl arwyd hwn yr i amherchi a gweddiwn Dduw ar ddangos ini pwy a vo brenin yn llywio a dieu yw na allem ni pei mynem lesteiriaw ar Dduw wneuthur a vynno, wrth hynny arhown ni yn amyneddus yr hwnn a ddetholes ef kanys ni ellir i dwyllaw a roddion nis bygylir a bygwth, ni chais dim gan ddyn onit i gallon: o achos ybyt ac yssyd ynddo a wnaeth ef y wassanaethu dyn, a dyn i wassanaethu iddo ynteu. Ac yna ydd aethant ir eglwys wrth efferen bryt echwyd, a gwedy daruot yr efferen, y lle yddoed y maen a gyrchassant a Dyffric a ddyuot wrth wyrda y deyrnas Arglwyddi chwi a ddylywch yn vawr diolwch i Grist ddangos i chwi y kyfriw arwyd ac a ddangosses yw ddisgyblon pan yttoed yn mynet yw ddioddevaint ac y dyvot wrthvnt, y neb ni bo cleddyf iddo gwerthet i bais a phrynet vn iddo. Heb yr vn or disgyblon y mae yma ddav gleddyf digon ynt hynny heb y Crist. Drwy y naill gleddyf y dyellir meddiant ysprydawl. ysyd yn llaw breladieit yr eglwys yrai a ddylyant rybuddio y bobyl ar bechu o honunt ai gellwng yn ediveiriawc oi pechodeu. Drwy y cleddyf arall y dyellir meddiant arglwyddi bydawl yrai a ddylyant kanhorthwy gwann a chosbi creulon a chadw kyviawnder ar cleddyf hwnnw a ddangosses Duw ichwi heddiw. Ac arol y geirieu hynn dethol a oruc Dyfric decwyr a devgein a devcant o orevgwyr y deyrnas ac erchi vddunt o hynaf i hynaf broui tynnv y cleddyf or maen ac ni allawd neb onaddvnt i dynnv. Ac yna ydderchis Dyfric i bawb yn ol i gilyd i dynnv os gallai ac ni chat neb ai gallai yn hynny o amser. Ac yna ydderchis Dyfric ir decwyr gadw y maen hyt.....2 ac erchi i bawb dyuot ir lle hwnnw y dyd hwnnw. A gwedy ev dyvot igyt ynyr amser hwnnw y dywedassant wrth yr archescob nat ent vyth or dinas neu oi gylch yni wyppynt pwy a vyddei vrenhin arnaddvnt. Agwedy gwarando efferen onaddvnt a gwnevthur yn llawen o bawb mynet a wnaeth i chwareu fonn a tharian ac i dorri peledyr a thylwyth y dinas a aeth i edrych hyt yn oet y decwyr a oed yn cadw y maen. Kai vab Kynvr a vrddessit yn varchoc vrddol dduw kalan gaeaf kyn no hynny ac a dothoed yno i ynnill yr esgidiev ac yna kynnwrwf a thervysc a gyvodes y ryngthvnt yn diwed y chware ac ymgvraw a wnethant yn ddihavarch ac yna y torres Kai i gleddyf yn emyl y groes ac anvon Arthur oi letty a oruc yn ol cleddyf arall iddo. A phan ddoeth Arthur tu ar llety ni chavas ford i mewn o achos bot y tyiwyth yn edrych ar y chware. Ac ymchwelut yn drist a wnaeth hyt ymhorth y vanachioc ac arganvot y cleddyf ar maen heb neb yn ev kadw a meddylio na phrofassei ef I dynnv, ac os ef a allai i dynnv i roddei i Gai i vrawt yn lle y cleddyf a dorrassai yny gware a discynnv a oruc ac ymauel a dwrn y cleddyf ai dynnv yn ddilesteir ai gvddiaw dan got i aruev ae ddwyn i Gai. A phan weles Kai y cleddyf i atnabot a wnaeth ai ddangos oi dat, a dywedut brenhin wyfi: brenin wyfi: mi a dynneis y cleddyf or maen. Pan weles Kynyr hynny anghredu Kai a wnaeth a mynet ell tri hyt y lle yddoed y maen a govyn a oruc Kynyr i Gai pa wed y kawssei ef y cleddyf. Ac yna meddylio a oruc yn ddrwc koddi i dat: a dywedut .y mae Arthur a roddassai atto ef y cleddyf. Ac yna govyn i Arthur a oruc Kynyr ac ef a vynegis y wirioned panyw ef a dynassai y cleddyf. Dyro y cleddyf y lle i keveist heb y Kynyr. A hynny a oruc Arthur yn ddilesteir, a Chynyr a erchis i Gai tynnv y cleddyf, ac ni allod ef hynny. Tynn y cleddyf heb y Kynyr wrth Arthur a hynny a wnaeth Arthur yn ddiannot ai roddi yny maen drachevyn a mynet ell tri ir eglwys a orugant. A Chynyr a gymerth Arthur rwng i ddwylaw ac a ddyvot val hynn. O dydi vyngharedickaf vab pa anryded a wnaut ti i mi pei mi a allai dy .wneuthur yn vrenin ar y dyrnas. Arglwyd dat heb yr Arthur a roddo Duw i mi o dda yn y byt hwnn nit i rannv a wnaf a thi namyn i roddi o gwbyl yn dy veddiant ti. Ac yna y dyvot Kynyr tatmeth. wyfi iti, ac yn dat knawdol yddwyt im kymryt. Ac yr hynny y tat ath geissiawd an yam athuc ir byt ni wn i hatnabot. Ac yna wylo a oruc Arthur a dywedut Arglwyd Dduw beth a vynneis i ir byt hwnn a diobeith wyf hyt hynn mal vnic a ddelei or ddaear, paham nat ir ddaear yddaf inheu yr awr honn. Ac yna y dyvot Kynyr wrth Arthur myvi a .bereis dy vedyddio di ath enwi Arthur ath vreithrin a wnevthvm ac os Duw a ddyry anryded yt, ti a ddylyy i gyfrannv am koffav i pan ddelych ith deyrnas dy hvn. Kymer vi yn lle mab ytt heb yr Arthur a mi a wnaf a erchy. Mi a archaf yt heb y Kynyr wnevthur Kai vy mab yn ddistein ar dy holl dyrnas, ac na ddiswydder ef yr geir nac yr gweithret er a wnel. O achos os evo a vyd krynwreid nat arnaw y mae y keryd onit arnat ti canys tydi a vagwyt ar laeth bronnev i vam ef ac yntev ar laeth alldudes afrywioc oth achos di. Ac Arthur a eddewis i Gynyr hynny o gwbyl ac yna Kynyr a ddyvot wrth yr archescob y mae imi vab nit marchoc vrddol ef etwa, ac yn adolywn gadel iddaw broui tynnv y cleddyf. Ac yna ydderchis yr archescob i bawb dyvot hyt y lle yddoed y maen, agwedy dyvot pawb ygyt ydderchis Kynyr i Arthur roddi y cleddyf yn llaw Ddyfric a hynny a oruc Arthur yn ddilesteir. Ac yna y kymerth Dyfric Arthur erbyn i law ac yddaeth ac ef tu ar eglwys gan ganu moliant i Dduw. Ac yna llidiaw or Ieirll ar Barwinieit a dywedut y ryngthvnt hwnn a henyw o waet issel a ninhev a henyrn o waet Uthyr Bendragon pa vod y gallwn ni ddioddef hwnn yn llywio ni. Kynyr a oed yn sevyll igyt ac Arthur a chyffredin y bobyl, ac yn i erbyn yddoeddynt yr ieirll ar barwnieit oll. Pan weles Dyfric y gynvigen honno dywedut a oruc wrthvnt pe byddern ni oll yn erbyn etholedic Duw a vynno Duw a vyd dir. Ac yna y roddes Arthur y cleddyf yn y maen ac ydderchis Dyffric i bawb i dynnv os gallai ac nis gallod neb. Ac yna yddoedet am hynny hyt wyl Vair y kanhwylle. Ar dyd hwnnw y proves pawb i dynnv ac nis gallod neb. Ac yna ydderchis Dyfric i Arthur dwyn y cleddyf atto ef a hynny a oruc Arthur ar kedeyrn a archassant yna oedi am hynny hyt y Pasc i edrych a geffit person a val vwch o voned noc Arthur. A nos Basc gwedy ev dyvot ygyt y govynnod Dyfric vddvnt a vynnynt Arthur yn vrenin arnunt. Ac yna y dyvot pawb yni gyveir, Bit vrenin ef arnam ni a cheitwat ac amddifynnwr. A thrannoeth y bore yr Ieirll ar Barwnieit a nessaassant ar Arthur ac a ddywedassant wrthaw val hynn. Arglwyd brenin arnam ni vyddy di, kymer yn gwriogeth dyro yn dir a daear a Duw sulgwyn ni a roddwn y goron am dy benn dyro yn atteb oth benn dy hvn ar hynn. Mi a wnaf heb yr Arthur: kymryt gwriogeth neb na roddi tir i neb nai ddwyn i ganthaw nis gwnaf i yn i vo y goron am vymhenn ac aros am y goron a wnaf yn llawen aches an meddylies ermoet achvb anryded onit yr hwnn a roddei Dduw ym. A gwedy an allassant hwy or for honno i dwyllo of, anvon anregion amyl iddo a orugant i edrych ai gwelynt yn dra chwannoc i thin. neu yn dra chybyd o hono. A hynny a wybu Arthur ac yrnarver a wnaeth ef yni plith hwy hyt y Sulgwyn yn i aeth ar rai i ofyn ac ar ereill i garu dros gwbyl or dyrnas A Sadwrn y Sulgwynn yddvrddwyt ef yn varchoc vrddawl a liawer ygyt no cf yr anryded iddaw. A thrannoeth y bore y gwisgwyt gwisc vrenhinawl amdano ac yddaethbwyt ac ef hyt y lie yddoed [y maen] ar cleddyf ac yna y dyvot Dyfric wrtho Argiwyd flyma y kyfreithiev a ddylyy di i kadw, ffyd gatholic ac egiwys Duw a gweinieit athlodion kynnal hwynt yn gadarn anrydedda Dduw ar saint yn vwyaf ageflych gwarando dy gynghorwyr yn amyneddus, kadw gyfreithiev da, kosba yrai enwir. Ac os hynn a eddewy i wneuthur kymer y cleddyf a anvones Duw ytt yn arwyd kariat arnat, a chedernyt i ninheu. Ac yna3 gostwng a oruc Arthur ar i liniev a dyrchavel i ddwyiaw a dywedut Duw a roddo y mi rat i lywio vy synnwyr am gweithredoed ar voliant iddaw ef, ac ar ies vy eneit vy hvn, a chedernyt ych llywio chwithev. Ac yna kymryt y cleddyf yn i law a oruc a mynet ir eglwys ac eisted yn y gadair vrenhinawl ar archescob a roddes y goron am I benn ar deyrnwialen yn i law. A gwedy darvot [yr efferen] hwynt a aethant i geissiaw y maen ac ni welet y maen vyth o hynny allan, a threvliaw y wled a orugant. Ac odd yna yddaeth Arthur i ryvelu ac i lywio i dyrnas yny mod y treithir yn ystoria y Brytanieit ar cleddyf hwnnw a getwis Arthur gantho tra vu vyw a hwnnw a elwit Kaletvwlch. Ac velly y tervyna yr ystoria hon.
NOTES
1. There is evidently some mistake here, some words having been omitted.
2. The scribe has left this sentence unfinished as he was probably not able to read his original.
3. The following is a copy of the same text from MS. 4 Llanstephan, f. 505, which was written about 1400: “gest6g aoruc arthur ar y linyeu. A drychauel yd6yla6 a dwyedut. Du6 a rodho y minheu rat ylywya6 vysyuh6yreu am g6eithredoed ar volyant ida6 ef. Ac ar les ym eneit vyhun. A chedernyt ych llywya6 ch6itheu. Ac yna kymryt y cledyf yny 1a6 aoruc arthur a mynet yr egl6ys. Ac eisted yny gadeir. Ac yna yr ar-archescob a rodes y goron am y hen ar deyrnwialen yny la6. A g6edy daruot yr offeren 6ynt a acthant i geissia6 y maen. ac ni welet y maen vyth o hynny allan. A threulia6 y wied a orugant Ac velly teruyna yr ystoria hon yvrth maen Arthur.”
SOURCE
Davies, J.H. "Arthur a Kaledvwlch: a Welsh Version of the Birth of Arthur (From a Fifteenth Century M.S., with Translation)." Y Cymmrodor: Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion. v. 24. London: Honourable Society of Cymmrodorion, 1913.