The Celtic Literature Coỻective

Dymkywarwydyat unhwchdywal
Jes. MS 111 (Llyfr Coch Hergest)
col. 1039-1041

Dymkywarwydyat unhwchdywal baran ygkyo-
lỽch; gỽeỻ yd lad nogyt ydolỽch,
Dymkyuarwydyat vn hỽch dywal; dywedit
yndrỽs ỻech. dunaỽt uab pabo ny tech,
Dymkyfuarwydyat vnhỽch dywal chwerỽ blỽng
chwerthin mor ryuel dorvlodyat. vryen reget
greidyaỽl gauel eryr gal vnhỽch glew hael;
ryuel godic budic uael. vryen greidyaỽl. gauael
eryr gal vnhỽch; berchen enaỽr: keỻ ỻyr kein
ebyr gỽyr glaỽr ~
Penn aborthaf auntu; kyrch ynat rỽng
deulu; mab kynuarch balch bieiuu,
Penn aborthaf arvyntu; penn uryen ỻary ỻyw-
ei ỻu. ac ar y vronn wennvran du,
Penn aborthaf myỽn vygcrys: penn vryen
ỻary ỻywyei ỻys. ac ar y vronn wenvrein ae hys,
Penn aborthaf ym vedeir. yr yrechwyd oed uu-
geil; teyrnvron treulyat gennweir,
Penn aborthaf tu mordwyt. oed ysgỽyt ar y
wlat: oed olwyn ygkat; oed cledyf cat kywlat rỽyt,
Penn aborthaf ar vygkled. gỽeỻ y vyỽ nogyt
yued. oed dinas y henwred,
Penn aborthaf ogodir. penaỽc peỻynnyaỽc y-
luyd; vryen geiryaỽc glotryd,
Penn aborthaf ar vy ysgỽyd. nymaruoỻei war-
atwyd; gỽae vy ỻaỽ ỻad vy arglỽyd,
Penn arborthaf ar vymbreich. neus goruc o
dir bryneich; gỽedy gỽaỽr geloraỽr veirch,
Penn aborthaf ynaghat vy ỻaỽ. ỻaryud ỻyw-
yei wlat; penn post prydein ryaỻat,
Penn a borthaf am porthes; neut atwen nat
yr vy ỻes; gỽae vy ỻaỽ ỻym digones,
Penn aborthaf odu riỽ. ac yeneu ewynriỽ gỽaet
gỽae reget o hedi, Ny thyr vis vymbreich
rygardwys vyweis. vygcaỻon neurdorres penn

[1039]

=========================================

aborthaf am porthes,
Y gelein veinwen aoloir hediỽ; adan brid a mein,
gỽae vy ỻaỽ ỻad tat owein,
Y gelein ueinwen aoloir hediỽ. ymplith prid aderỽ,
gỽae vy ỻaỽ ỻad vygkeuynderỽ,
Y gelein ueinwenn aoloir heno. adan vein aedeỽ-
it; gỽae vy ỻaỽ ỻam rym tynghit,
Y gelein veinwen aoloir heno ymplith prid a
thywerich; gỽae vy ỻaỽ ỻad mab kynuarch,
Y gelein ueinwenn aoloir hediỽ. dan weryt ac
arwyd; gỽae vyỻaw ỻad vy arglỽyd,
Y gelein ueinwen aoloir hediỽ adan brid athywaỽt
gwae vy ỻaỽ ỻam rym daeraỽt,
Y gelein veinwenn aoloir hediỽ. adan brid a dy-
nat; gỽae vy ỻaỽ ỻam rym gaỻat,
Y gelein veinwen aoloir hediỽ adan brid a
mein glas; gỽae vyỻaỽ ỻam rym gaỻas,
Anoeth byd braỽt bỽyn kynnuỻ amgyrn bue-
lyn; am druỻ rebyd uilet reget duỻ;
anoeth byd braỽt bỽyn kynnwys amgyrn bue-
lyn amwys; rebyd uilet regethwis,
Handit euyrdyl aflawen henoeth. aỻuossyd
amgen; yn aber ỻeu ỻad uryen,
Ystrist eurdyl or draỻot heno. ac or ỻam am
daeraỽt; yn aber ỻeu ỻad eubraỽt,
Duỽ gỽener gỽeleis y diuyd maỽr. ar uydinaỽr
bedit; heit heb uodrydaf hubyd. ,
Neum rodes i run ryuedliaỽr cant heit achant
ysgỽydaỽr; ac vn heit oed weỻ peỻ maỽr,
Neum rodes i run rỽyf yolyd cantref; achant
eidyonyd: ac vn oed weỻ nogyd,
Ymmyỽ run reaỽdyr dyhed. dyrein enwir eu
byded; heyrn ar veirch enwired,
Mor vi gogỽn vy anaf. arglyỽ pob un ymhop
haf; ny wyr neb nebaỽt arnaf,
Pỽyỻei dunaỽt marchaỽc gỽein. erechwyd
gỽneuthur kelein; yn erbyn cryssed owein,
Pwyỻei dunaỽt vd pressen. erechwyd gỽneuthur
catwen; ynerbyn kyfryssed pasgen,
Pỽyỻei waỻaỽc marchaỽc trin. erechwyd gỽ-
neuthur dynin; ynerbyn kyfryssed elphin,
Pwyỻei vran uab y meỻyrn; vyndihol.i.ỻosgi
vy ffyrn; bleid a uugei ỽrth ebyrn,
Pỽyỻei uorgant ef ae wyr. vyndihol ỻosgi vyn

[1040]

=========================================

tymyr; ỻyc agrauei ỽrth glegỽr,
Pỽyỻeis i panlas elgno; ffrowyỻei lauyn
ar eidyo; pyỻ aphebyỻ oe vro,
Eilweith gỽeleis gỽedy gỽeithyeu aỽr ysgỽ-
yt ar ysgỽyd; vryen bueil yno elgno hen,
ar erechwyd ethyỽ gỽaỻt o vraỽ marchaỽc
ysgỽeiỻ; a uyd uyth uryen araỻ.
Ys moel vy arglỽyd ys euras gỽrth. nys car
ketwyr y gas; ỻiaỽs gỽledic rydreulyas,
Angerd uryen ys agro gennyf kyrchynat
ympob bro: ynwisc louan laỽ difro,
Taỽel awel tu hirglyỽ. odit auo molediỽ.
mam vryen ken ny diỽ.
ỻawer ki geilic ahebaỽc wyrennic alithiwyt
ary ỻaỽr; kynn bu erỻeon ỻawedraỽr,
Yraelwyt honn ae goglyt gaỽr. mỽy gordyf-
nassei ary ỻaỽr. med ameduon eiriaỽl,
Yraelwyt honn neus kud dynat. tra vu
vyw y gỽercheitwat,
Yraelwyt honn neuscud glessin; ym myỽ
owein ac elphin; berwassei y pheir breiddin,
Yraelwyt honn neuscud kaỻaỽdyr ỻỽyt.
mỽy gordysnassei am ybỽyt: cledyfual dyual di-
Yraelwyth honn neuscud kein vieri co [arswyt,
et; kynneuaỽc oed idi; gordyfnassei reget rodi
Yraelwyt honn neuscud drein; mwy gordyf-
nassei ychyngrein; kymỽynas kyweithas owein.
Yraelwyt hon̄ neuscud myr; mỽy gordyfnas-
sei babir; gloew achywedeu kywir,
Yraelwyt honn neus cud tauaỽl. mỽy y
gordyfnassei aryỻaỽr; med amedyon eiryaỽl,
Yraelwyt honn neus cladhỽch. mỽy gordysnas-
sei elwch; gỽyr ac amgyrn kyuedỽch,
Yraelwyt honn neusclad kywen. nys eidiga-
uei anghen; ym myỽ owein ac vryen,
Yr ystỽffỽl hỽnn arhỽnn draỽ; mỽy gordyf-
nassei amdanaỽ; elỽch ỻyỽ aỻỽybyr arnaỽ,

[1041]