Ymgyrch Siarlymaen i Ieruusalem
I.—PAN yttoed charlys yggwylua y sulgwyn yn seint dynys. yn gwiscaw coron y vrenhinyaeth am y benn: ac yn gwiscaw cledyf y teyrnas am y ystlys ar warthaf y gwiscoed mawrweirthawc ar berson brenhinawl ar ansawd vrenhineid. a deckeynt. ac a hoffynt yr adurn odieithyr. Ac ar hynny y brenhin arderchawc a dywat wrth y wreic. yr honn y credei ef rybuchaw ohonei. a damunaw idaw y vot ymlaen neb ynyr ansawd honno. vygkarrediccaf. heb ef. aweleist. neu a glyweisti neb un derchauedic ar lywodraeth teyrnas mor wedus cledyf ar y ystlys ar meu i. kynn vonedigeidet y dam¬gylchyno coron ygkylch y beun ar meu i. A hithen gan edrych yny chylch a attebawd ynryvuan gan denawt gwreigawl, na weleis arglwyd. heb hi. Minheu agigieu hot un. pei as gwelut ti euo yn adurnn brenhinawl. y gorffywyssei dy holl vocsach di herwyd hoffter y berson. Y voned ynteu a gyfadeuynt ragori rae dy teu di. Ar atteb annosparthus hwnnw a gyffroes y brenhin ar lit ac iriloned. ac yn hennaf oil. o vot y sawl gwyrda aoed yny gyich yn gwarandaw yr ymadrawd Reit yw ytti. heb ef. menegi y mi y brenhin. kymeint y arderchogrwryd ae voned ar hwnn adywedeisti. A nynheu agyrchwn parth ac attaw ef. vai y bernych di am gwyrda inheu. gwedy an gwelwch gyuarystlys yn adurn brenhinawl. pwy wedussaf ohonam. Ac ny byd diboen iti o dywedeisti ev. namyn or vuanhaf agheu y gyt ath geiwyd ytheruynnir Ofyrihau aoruc y vrenhines. pan welas y brenhin yn kyffroi ar lit, a cheissaw teckau y hatteb ynvyt yn rywyr. Nyt gwedus. heb hi. y beth ysgawn ysgaelus. ac anheilwg o volest. kyffroi gwr prud bonhedic. Ac yn bennaf oil pryt na rygerdo nac o dryc ewyllys. nac o brudder hynny. namyn o gel1-weir caryat. ac o chware. yr hwnn a gyrbwylleis heuyt. heb hi. nas canmoleis i evo. oe vot yndewrach no thydi. namyn oe vot gyfoethogach. ac yn vwy y niueroed nor teu di a dyelleis i. A gwedy yr ymadrodyon hynny y vrenhines a dygwydwys ar tal y deuhn rae bronn y brenhin y erchi trugared. A chynnic y llw ygan y veint a vynnei o reith. pan yw or ware, a chellweir y dywedassei kymeint ac adywat. ac nat yr kywilyd na gwaradwyd. Ar nyt arbetto idaw ehun. heb y brenhin. namyn trwy gelwyd ilad y eneit. nyt teilwg y hwnnw caffel trugared. Reit yw yti. heb ef. menegi ymi y brenhin adywedeist. Pa ffuryf heb hi. y gellir manae ar vrenhin ny aller caffel y gyfryw. Ac yna y tygwys y brenhin y goron y teyrnas. wedy y irllonhaw ohonaw dieithyr mod. onyt enwei y brenhin a rygyrbwyllassei. y iledit y phen a chiedyf yn diannot. A phan gigleu y vrenhines llw y brenhin. y gwybu vot yn dir idi enwi y brenhin rygyrbwyllassei. yr hwnu aoed dewisach genti pei rydawssei yrndanaw. O vrenhin enrydedus. heb hi. dyro di ymi nawd a channyat y dywedut. Hu gadarn yr hwnn yssyd yn llywyaw amherodraeth corstinobyl a dyelleis i. yr hwun a giglefi bot yngymeint y gyuoeth ae olut. ac nat oes neb a allo nae wybot nae gyfrif. eithyr duw ehun. yr hwnn awyr kyfrif y syr. a thywawt y weilgi. yr hwnn a giglef bot yn gynn amlet y wyrda. ac yn wychet. ac nat oes gwyr brenhin eithyr rei ten di. a allo ymgyffelybu udunt. Yr. hwnn a giglefi y vot yn gymryt a bot yn didan ac yn digrif gan aedrycho arnaw atal eu golwc arnaw. Os gwir rydywedeisti. heb y brenhin. ti a geffy vadeueint am dy ymadrawd. Os geu ynteu. megys y gweda y euawc. yndiannot yth lebydiir. A hyt nat annotter gobyr dy gewilyci it. nyt anuodaf inheu mynet y wybot yr hu hwnnw.
II.—Gwedy llewenyd y wled a gwiscaw coron y deyrnas yn seint dynys. ac ymchoelut y brenhin y paris. eisted aoruc yn y neuad vrenhinawl. ae wyrda yn y gylch. y rei bonhediccaf yn nessaf idaw. ac a vei lei eu boned yn bellach y wrthaw. Yno yd oedynt .yn gyndrychawl. y deudec gogyuurd. nyt amgen turpin archescob. rolond nei y brenhin. oliuer y getymdeith. gwallter o orreins. naimys gadarn a gwychyr. oger o denmarc. gereint. gerrard. brengar. bertram liaw gadarn. bernard iarll evrard dygirwyd. a llawer o wyrda. a marchogyon ereill. y rei a hanoed eu boned. ac eu rieni o dayar ffreinc. yny veint vydin mor vonhedic a honno. Yd oed y brenhin wedy rygyflehau yny kymherued. a phawb yn barawt y warandaw. a gostec da. y dywat y brenhin wrthunt. Om ffydlonyon i. y rei rybroueis i. eu gwychter. ac eu molyant y gyniuer gweith. y mae hynt gryno yn ych gwahawd chwi ygyt a mi yr awr honn. nyt amgen. y pererindawt dayar caerusalern. yny lle yn prynnwyt ni o waet yn harglwyd. a gwedy y bererindawt y reig bot ym ymwybot a hu vrenhin. yr hwnn a goffa y vrenhines y ragor ragofi. A gwedy yr ymadrawd brenhinawl. a theruynnu y cwnsli. y gwyrda a ymparotoyssant y eu hynt gyt ar brenhin. a rei aoed digawn meint eu galluoed or eidunt ehunein, brenhinawl ehalaethder ac eu gwnaeth yn vwy en gallu. Ef a rodes udunt llurygeu. a chledyfeu a helymeu. a phob kyfryw arueu. or a vei reit y wasanaeth marchogyon. Ac nyt reit yni na gohir na llauur y ganmawl y rodyon. pan allo y rodyon. ymdangos yn amlwc o helaethder y rodawdyr. Eur. ac aryant a chwanegwys y racdywededigyon rodyon hynny. A phwy bynnac a vynno gwybot meint hynny. ef a digawn ehun adnabot eu hot yn ehalaeth yny medylyho. ae yd edrycho mawredigrwyd eu rodawdyr A gwedy kymryt arwyd y groc ar en hysgwydeu, y brenhin ae wyrda a gymmerassant hynt. parth a dayar caerusalem ar vrenhines ynteu o gyffredin gyghor y gwyrda a edewit ymparis. yn boenedic o vryt a dolur. a thristit.
III.—-A gwedy eu kerdet odieithyr y dinas. wynt a gyrchassant gwastatrwyd ehalaeth. ae amhyl ar maestir hwnnw a gyuodes yn dwst ac yn blwr. gan amylder y meirch. ac yn eu kynhwryf yny oed y dwst yn kyuodi uch y penneu yn wybyr. ac yn tywyllch y gudyaw y rygtunt ar awyr. ac a pheleidyr yr heul ac yn awr hanner dyd ymgyffylybu gan ogyuadâu y nos yn en hol yn diannot. Amylder a riuedi y niuer hwnnw a adawn ni val peth anneiryf. pan vei petwarugein mil o tywyssogyon. pwy eithyr duw holl gyuoethawc. a allei riuedi y niuer. ac eu canlynei hwynteu. Ac yna y kilywys y brenhin ychydic ywrth y wyrda. a galw attaw bertram iarll. a dywedut wrthaw val hyn. Digrif yw gennyfi. heb ef. gwelet amylder y niuer bonhedic hwnn. nyt mwy o genedyl nac o weithredoed. a pha deyrnas a allei y gallu ymgyffylybu a theyrnnas ffreinc. Neu pwy or brenhined a ellit y varnu yn gyfoethach. nor hwnn a vei arglwyd an y sawl gyuoethogyon hynn. edrych y veint ar sawl vilyoed a raculaena yny vydin. gyntaf. a thewet y bydinoed yn en hol hwynteu. A gwedy hynny o ymadrodyon. ef a ymhoeles y brenhin bonhedic ar y niuer. ac en hannoc y gerdet mal y gel1-ynt gwpiau eu llauur. a chymessuraw diwarnodeu. ac en hymdeitheu. val y gellynt perffeithaw en hynt. Adaw ffreinc aorugant. a bwrgwin. ar almaen. a groec. a hwngri. Ny bu yn hynny. nac a veidyei nac a allei en lleseiraw. Ac ual na bo hwy na blinach yr ymadrawd. noc y bu yr hynt udunt hwynteu. hwynt a doethant yr dinas kyssegredic. a gwedy gwneuthur offrymeu dylyedus. a gwassanaeth duw yn gyntaf. herwyd gorchymun yr euengyl. yn herwyd dylyedus wassanaeth. ac urdas. odyna wynt a gymerassant eu llettyeu. ac en gwledeu. ac eu hanregyon. ac en gwirodeu. y bawp onadunt herwyd eu hanryded.
IV. —Pan dyuu y bore trannoeth. y brenhin ae wyrda a gyrchassant mynyd olluet. ac yna y doethant yr eglwys. yn yr honn y credir rydywedut or arglwyd. ae deudec ebestyl. y pader yn gyntaf. ac yno y dywedir bot y deudec cadeir yn eisteduaeu yr deudec ebestyl. pan dywat yr arglwyd y pader. an tryded eistedua ardec ygkymherued y rei hynny. yr honn a gredir y hot yn eistedua yr arglwyd. At y creireu kyssegredic y nessawys y brenhin bonhedic yn llawen. ac y gorffwysswys ychydic. gan y eisted yn y gadeir gymheruedaf. ar deudec gogyuurd o ffreinc a eistedassant yny cadeireu ereill. yghylch eu brenhin. Ac ar hynny nachaf idew. rydoethoed o bell yn eu hol. a doeth yr eglwys. a phan welas ef y brenhin ar tywyssogyon yn y gylch. ymgynnull aoruc yn diruawr ofyn a sythu. a chilyaw or eglwys. a chyrchu kyndrycholder y padriarch. ac adolwyn idaw y vedydyaw yn diannot. a dywedut aoruc. ryweiet ohonaw yr arglwyd. ae deudec ebestyl yn eisted yny gylch yn yr eglwys a dywetpwyt uchot. Ac wedy bedydyaw yr idew. a galw kynnulleitua y dinas. y vynet y brocessiwn. parth an eglwys a dywetpwyt. wynt agendassant parth ac yno. dan ganu ympneu. a chywydolyaetheu. A phan welas charlys y vydin honno yn dyuot yr eglwys. ar padriarch herwyd y urdas yn ol y dwybleit. yr hwnn a vanagei y padriarchawl abit y vot yn padriarch. kyuodi ef ae wyrda aorugant yny erbyn ef a dinoethi eu penneu. ac yn uvud darestygedic erchi y vendith. a chymryt y ganthaw euegyl tagneued. A ryuedu aoruc y padriarch mawredigrwyd y gwr. a gouyn idaw pwy oed. ac o ba le pan dathoed. a pha du yd ae ar niuer hwnn. Charlys heb ef wyfi. yn ffreinc ym ganet. llywyawdyr y what honno wyf inheu. agwedy yd adolwyf ved yr arglwyd darpar yw gennyf vynet y gyndrycholder Hu vrenhin corstinobyl a gigleu gorhoffter a ragor clot idaw rae ereill. yr hwnn onyt cristyawn a darestyghafi ef y gristonogawl ffyd. val y deelleis, ac yd ystygheis hyt hynn cleudec brenhin auffydlawn. Ac adnabot aoruc y padriarch yny gyndrycholder anryded y brenbin. yr hwnn a racatwaenat o glybot y glod. a dywedut wrthaw val hynn. Gwynvededic vrenhin wyt. a mawrhydic dy weithredoed a mawrhydic dy aruaeth. val hynny y gwledychir val hynny y deuir an y deyrnas ny diffyc vyth. A diamheu bot yn teilwg y kyfryw vrenhin athydi. eisted ymywn y gadeir argiwydiawl honno. ac nyt eistedwys yndi hi dyn eiroet eithyr tidi namyn O bell y hadoli. Ac wrth hynny yd achwanneckeir dy enw di weithon canys gobrynneist o vawredigrwyd dy weithredoed ac yth elwir charlymaen weithon o hynn allan. A chymryt yr ychwanuec euw hwnnw a oruc yn flaw en. a diolwch yr padriarch hynny. ac estwg y ben ac erchi idaw ychydic kyfran o greireu caerusalem. Nyt ychydic. heb y padriarch. a geffy di. namyn kyfran ehalaeth val y gellych enrydedu. ffreinc. y wlat awdam ni y bot yn teilwg oe anrydedu. Ac yna y nodes ef idaw ef breich seint symeon. aphen. seint lazar. a ran o waet ystyphan verthyr. a banyf peder ebostol. ac amdo iessu grist. ae gyllell. ae garegyl. ac un or kethri a bwywyt yndaw ar y groc. an goron drein. a pheth o laeth bronneu meir. ae chrys. ac esgit idi a diolwch yn vawr aoruc charlymaen yr padriarch. val y mae blin eu datkanu. rac mawrweirthocket y rod. Ac yny lle yd ymdangosses gwyrth y cneireu. nyt amgen. dyuot crupyl dan parllafonec ny rygerdassei seith mlyned kynno hynny attunt. ac yn diannot caffel y bedestric. Ac y ducpwyt yna y crefftwyr kywreinhaf. or a gaffat. y wneuthur fiestri odidawc urdasseid o eur ac aryant. y arwein y creireu hynny yn anrydedus yndunt. A gwedy y caeu yn dichleis y gorchymynnwys y brenhin y catwadaeth y turpin archescop. Ac yna y bu y brenhin petwar mis. ac y dechreuis gwneuthur eglwys ar y gost ehun. ac yci edewis dogyn o gost oe chwplau. A phan gychwynnwys ymeith odyno. bendith y padriarch ae gannyat a gymerth drwy rat duw. ac adaw idaw o delei oe wlat. pan vei gyflwrw idaw. yd aey yr yspaen y ymlad an pagannyeit. An gouunet hwnnw a gwplaawd charlymaen yn arderchawc. pan gymerth rolond ar den-dec gogyuurd ynglyn mieri fuched dragywyd dros uuched amserawl.
V.—Ac yna y menegys charlymaen oe lu. bot eu hynt panth ac at hu y corstinobyl. A llawenhau a oruc pawb onadunt yr hynt honno. a chychwyn aonugant. Ar padriarch agerdawd. ygyt ac wy y dyd hwnnw. ac a drigyawd ygyt ac ef y nos honno. a thrannoeth y bore y gwahannwys y padriarch ac ef. trwy adaw idaw y yendith. ac euegyl tagneued. Y brenhin ae lu aebrwydassant en hynt. ac a doethant yn agos y gorstinobyl. val y gwelynt y keyryd an kestyll ar muroed. an neuadeu. an llyssoed. an eglwysseu uchel arbennic. ar clodyeu urdasseid yrygtunt ar dinas. Wy a welynt. ac a dywanassant an weirglawd dinuawn y meint. a digrifwch edrych arnei o amnyual vlodeuoed. a llysseuoed a gwascawdwyd. wedy ryblannu yndi yn urdasseid. a gwyd yn meithrin llonydwch. a yechyt drwy arogleu. ac en harogleuei. gwedy eu handhau ac en teckau yny chylch o gylch. y plannwyd hydwf odidawc trwy dechymyc kywreinrwyd. Yno yd oedynt o vonedigyon kyfrwg rif teir mil. yn gynhardet o wisgoed mawrweirthawc. val kyt bei brenhin pob un onadunt. nen deyrn dylyedawc. Rei onadunt yn gware seccyr. eraill yn gware gwydbwyll. Ereill yn arwein gweilch. a hebogeu an en dwylaw. Ereill yn. ymdidan a morynyou ieueinc bonedigeid o venchet teyrned. a diruawr riuedi yno onadunt. Ar veint vonedigeidnwyd honno a ryuedawd charlymaen yn vawr. a galw attaw un or gwyrda aoruc. a gouyn idaw pa he y gallei ef ymgaffei y ymdidan an brenhin aoed arglwyd ar niuer bonedigeid hwnnw. Kerdwch heb ef ragoch. yny weloch lenn o bali. wedy rydynnu ar pedwar piler o eur. ac y dan y llenn honno y mae y brenhin a ovynny di yn eredyc. an llenn yny diffryt rac gwres yr heul.
VI.—A bryssyaw a oruc y brenhin yr lle y managassei y manchawc idaw. ac yno y cauas hu vrenhin yn llauuryaw eredyc yn vonedigeid. Amryued oed yr aradyn. eur oed y swch an cwlltwr, mein rinwedawl mawrweirthawc oed yr ieuawr. Ac nyt an y draet yd ymlynei y brenhin yr ychen. namyn oe eisted ymywn kadeir o eur, a den vul gadarn yn y harwein o bop tu idi yn difleis didramgwyd. Ac wrth y gadeir adanei yd oed meinc o aryant ygkynhael traet y brenhin. menic hardwedus am y dwylaw. a ractal eur am y ben oe diffryt rae tragwres yr heul. Llenn o bali uch y benn wedy rydynnu ar petwan piler o eur. aoedynt an pedeir bann y gadeir. yny law. yn lie iren y gymell yr ychen y eredic. yd oed wialen eur. kynn vuanet y tynhei Y kwysseu, a chynn tecket. a llinyeu a tynnit wrth lywyawdyr gyfyawn Ac nyt yr bot yn reit yr brenhin y eredyc. namyn cof oed gantaw y hanuod o etiued y gwr y dywetpwyt wrthaw. pany gyrrwyt o baradwys. Yn chwys a llauur dy gorff. a gnif dy gallon. bit. dy ymborth. Adaf oed hwnnw. Ac val y doeth charlymaen yn deissyuyt at y brenhin. kyfarch gwell aoruc pob un onadunt y gilyd. ac y gouynnwys hu idaw pwy oed. ac o ba le pan dathoed. a pha achaws oed y dyuodyat. a phy du y tynnei y llu mawr hwnnw. Charlymaen heb ef wyfi. ac o ffreinc pan wyf. a brenhin y lle hwnnw wyf. a roloud vy nei i. yw hwnn. y gwas jeuanc clotuorussaf. Mi a diolchaf y duw. heb yr hu. gwelet o honafi yn gyndrychawl y brenhin a giglef lawer o weithredoed y glot. ae volyant. gan adelei o ifreinc. Ami adolygaf y chwi trigyaw ygyt a mi vlwydyn. val y gallom yn hynny o ysbeit ymgytymeithassu ac ymadnabot. ac ymrwymaw ymywn getymdeithas. A phan eloch y wrthyfi. mi aagoraf vy eur dei ywch. y dwyn genwch ych gwlat a alloch y gychwyn o eur. Ac yr awr honn och achaws chwi mi a ollygaf yr ychen. ac a teruynnaf y gweith kynn y amser.
VII.—Ac yna gollwg yr ychen aoruc hu. ac ysgynflu an vul hard uchel esmwyth tec gwastatvalch hydwf. a chyweirdeb brenhinawl arnaw. ae y ymdaat a wedei y bop brenhin. Ac an gam ehalaeth ef a gerdawd gyt ae westei hyt y llys. a brenhin hu a anuones or blaen y rybudyaw yvrenhines ac y gyweiraw y neuad vrenhinawl or adurn teckaf a balchaf or a ellit. Ac yna y doethant y mywn wynt. ac eu niuer. a disgynnu o vywn yr kwrt. an pauiment oed oll o marmor. ar gradeu heuyt aoedynt or un ryw defnyd. Ac yna y disgynassant yr neuad vrenhinawl yn yr honn yd oed anneinyf llussogrwyd o wynda yn gware seccyr. a gwydbwyll ac amryuaelon chwaryeu ereill. A niuer mawr a doeth yn enbyn charlymaen. ae dylwyth. y gyfarch gwell idaw yn anrydedus. ac y pen kymryt eu meirch. ac eu ystablu. Odidawc ac anryued vu gan vrenhin ffreinc ae wyrda ansawd y neuad. Yn y llawr yn ysgythredic yd oed delweu yr holl anineileit gwyllt. a dof. yny kynted. Yn y penn issaf is y kynted yd oed delw y mor yn yscruennedic a phob ryw creadur pysc. or a vacker yny mor. Yny ystlyseu y neuad ydoed delw yr wybyr. a phob ryw ederyn a ehedei yndaw. val kyt bei awyr. Penn y neuad a oed yn ffuryf a drych y ffuruauen. ar heul. ar lloer. ar syr. ar syggneu. yn ossodedic yny furuauen. yny oed yn dywynygu ympenn y neuad. herwyd amryuaelon amseroed. Kwmpas oed yny neuad. a diruawr golofyn y meint an weith piler yny perued. a gortho o eur didlawt cadarn yny gylch. a chywreint ysgwthyr yny teckau o diruawr ethrylith cann piler o varmor gwedus. cwmpas oed yny gylch yn gynn bellet o vessur y wrth y piler perued. val y dygei. y cwmpas mawr yr ystlysseu y wrthunt hwynteu. Ac wrth pob piler or cant delw gwr o euyd gwedy rydineu o gywreinrwyd ethrilythus. a chorn yn llaw pob un onadunt yny dala yn gyuagos oe eneu. val y tebygei pawb or ae gwelei eu bot yn barawt y ganu en kyrn.
VIII.—Ac yna gyntaf y duc y brenhin an gof ymadrawd y vrenhines. ac yn y vedwl yd oed bot yn vadeuedic idi a dywedassei. am y geffylybu ef a hu gadarn. A thra yttoed charlymaen ae niuer yn ryuedu gweith y neuad. nachaf y wrth y mor a oed ysgwthyr yny penn issaf yr neuad gwynt deissyuyt yn dyuot ar von rot mein. ae yn. troi y neuad yn gyflym ar yr un piler. val y troes rot y vein ar y werthyt. Ac yna y dechreuawd y deiweu aoed ar y pilereu canu eu kyrn. yn un ffunyt a chyt bei ysbryt buchedawl yndunt. yn eu kymell y ganu. a chymrawu aoruc charlymaen am y damwein deissyuyt hwnnw. a heb allu sefyll yn y kynhwryf hwnnw. namyn eisted ar y pauiment oe anuod aoruc yny kyffro troedic hwnnw. ac aoed oe wyrda yn keissaw ymgynnal yn eu sefyll. a gwympynt ar lawr y neuad. yny vu da gantunt kudyaw en penneu. ac eu llygeit. rac aryneic edrych an vuander y droua honno. A hu yn eu ehofni ac yn erchi udnnt na bei hir gantunt yny orffwyssei y kynnhwryf hwnnw. A phan nessawys awr osper. v peidwys y gwynt. ac y tewis y kyrn. ac y gorffwysswys kyffro y neuad. Yna y kyuodes charlymaen ac y niuer y vynyd. a phan oed barawt pob peth y kudywyt y byrdeu. oc eu llieineu a danuot ymoichi. brenhin ffreinc aeth or neilltu yr neuad. ae niuer o bop tu idaw. vai y dewissei eu hanryded. Or tu arall yr neuad yd oed hu ae niuer ynteu. ar vrenhines yn nessaf idaw. ac ynessaf y hitheu y merch. yr honn ny ellit y cheffylybu y neb o bryt a thegwch yny hoetran. Oliuer a dodes y olwc arnei. ac yn diannot ymfflymychn oe charyat. a damunaw yny vryt ae vedwl y bot ygyt ac ef yn ffreinc. val y gallei gwneuthur y damunet ae ewyhlys wrthi. Nyt oed hawd y neb traethu nac adnawd y gyniuer anrec aoed yno. neu y gyniuer amnyw drythyllwch aoed yno o vwyt. a llynn herwyd esmwythter. na chlust y warandaw. na thauot y draethu. na llygat y welet y kyfryw. ac nys credei neb onyt ae gwelei. Chwanyeu y chwaryydyonn. kywydoiaetheu y kywydolyon o aghlywedigyon vessureu keinneadeth. ac amryw geluydodeu organ. val y gwelit udunt eu bot ehun gwedy dychymygn grym y geluydyt.
IX.—Pan daruu vwyta a noethi y byrdeu oc eu llieineu a chyuodi or accuryeit yvynyd. a gwnteithaw en meirch ac eu hebrannu yn diwall ehalaeth. a ehymryt or ysquiereit eu lletyeu. A phan gyuodes y brenhined. an gwyrda. y ar y byrdeu. Hu gadarn a ganhebryngwys charlymaen ae deudec gogyuund y ystauell ysgyualaf. Hir a blin oed datkanu gweith yr ystauell. ae chywreinrwyd. namyn an vyrder. Ny oruc dynawl ethryhith y chyffehyp. Ny buassei yndi diffyc goleuat eiroet. Yndi ymywn ydoed colofyn eureit. ac o leuuer maen carbunculus oed yny phen. yn dydhau yn wastat. pan diangei y dyd. Yno ydoed y deudec wely. gwedi dineu o latwn dogyn eu hardet. o syndal a phali. a phorphor. ar trydyd gwely ar dec oed yn eu perued wynteu heb amryw vwyn yndaw amgen noc eur. a mein gwerthuawr. ac ar hwnnw y dillat oed adas y ryw defnyd oed y danaw. Brenhin ffreinc aaeth yr gwely perued. ar deudec gogyuurd aaethant yr gwelyeu ereill. a gwassannaethwyr aoedynt yn heilaw gwin arnunt am eu gwelyeu. Yn drws yr ystauell yd oed odieithyr maen mawr. a cheued yndaw. ac yn hwnnw y gorchymynnwys hu gadarn y un oe wassannaethwyr ymdirgelu. a gwarandaw ymdidan y ffreinc y nos honno. Ac ymdidan aoruc y ffreinc yrygtunt ehunein o ymadnodyon drythyll kellweirns. val y mae gnawt trwy veddawd.
X.—Ae yna y dywat rolond. Nini a dywedwn hwaryeu odidawe heno awnelom avory rac bronn hu gadarn. ae wyr. Mi a hwaryaf yn gyntaf heb y charlymaen. Paret hu gadarn avory gwiscaw arueu deu wr am y cadarnnaf oe wyr. ar pennadnryaf o rei ieueinc. ac ysgynnet y marehawc cadarnaf a goreu a vo gwiscedic o deu arueu march. Mi adrawaf a chledyf y gwr ar uchaf y arueu y benn ar un dyrnawt trwy y gwr an march byt y llawr. yny vo y cledyf hyt gwayw yn y dayar agherd y dyrnawt. Dyoer. heb y gwanandawr. ys drwc ymedrawd hn gadarn lettyu y ryw wr hwnn. A minheu abaraf. avory pan vo dyd. rodi canyat ywch y vynet ymdeith. a hynny a dywat y gwarandawr yny vedwl. val nas clywei neb. Gware ditheu garu nei heb y brenhin wrth rolond. Benffyccyet hu gadarn heb y rolond fagittot y gorn ef ymi. a minheu a dodaf lef arnaw odieithyr y dinas. val y bo kymeint. a chyn aruthret y dwrd. ac na bo dor ar borth. nae an ty yny dinas. kyt boet dur pob un ohonunt. na bwynt seingyl oll. ac yny del y dwrd hwnnw am benn hu gadarn ehun. yny diwreido blew y varyf oll. ae noethi oe dillat. yny vo briwedic y gnawt oll. Dyoer. heb y gwaranclawr. llyma gellweir dybryt. ac yn anaduwyn am vrenhin. a cham a wnaeth hu lettyu y ryw westei hwnn. Oliuer. heb y rolond. gwary ditheu weithon. Gan gannyat charlymaen mi a chwaryaf. Rodet hu gadarn y verch nosweith y gytorwed ami. y vorwyn awelsawch chwi gynne. hi a dwc tystolyaeth arnafi cwplhau ohonafi yn y nos honno digrifwch godineb gann weith wrthi. Dyoer. heb y gwandawr. ti vydy vedw gann. weith kynn gwneuthur o honot kywylyd kymeint y hu gadarn a hwnnw. a chynny wnelych weithret. ti a dywedeist val y gobryny boen ymdanaw a vo gormod gennyt. A hwareet yn archescop ni. heb y charlymaen. Gwaryaf arglwyd heb ynteu. Paret hu gadarn avory tri emys ygyt y redec. a mi ac eu ragotaf an eu hystlys. ac ysgynnaf an y trydyd dros y deu. ac a hwaryaf a phetwar aual. ac ae taulaf bob eilwers om dwylaw yn yr awyr. ac ae henbynnaf. ae o dygwyd yr un onadunt yr llawr o un om dwylaw. nac yr kyffro y meirch. nac yr en buander. nyt oes boen nys diodefwyf arnaf. Dyoer. heb y gwarandawr. nyt anadnwyn y gwary hwnn. ae nyt lle kwyn ymdanaw. Minheu a hwanyaf weithon. heb y gwilym o oreins. o gannyat charlymaen. Y bel hayarn a welsawch chwi gynneu ger bronn y neuad. nys tynnei ugein ychen oe lle. mi a daflaf a hi y gaer yny vo ugein kyfelin or gaer yr llawr gan y dyrnnawt. Dyoer heb y gwarandawr. nyt eidaw nerth dyn gallu hynny. ac ny henyw o gedernyt dynawl. ac ef a vyd reit ytti avory y broui. a thi a wybydy y mae gwac uocsach yw y teu di.
XI.—Ar oger o denmarc y daw gware weithon. Yn llawen arglwyd. heb y tywysawc. Y piler mawr a weisawch gynneu yn kynnal y neuad. mi a ymavaelaf ac ef. ac ae tynnaf oe le. yny vo y neuad yn dygwydedic. ac yny lletho avo y danei. Dyoer. heb y gwarandawr. dyn ynvyt yw hwnn. ac nyt oes le yma y bresswylyaw ygyt a hynn. Naim tywyssawc bieu hware weithon. heb y charlymaen. Yn llawen. arglwyd. heb hwnnw. Bennffyccyet hu avory ymi y lluryc dromhaf a vo idaw. ac a honno ymdanaf. mi a neidaf yny vwyf ar benn y neuad. ac odyno yr llawr. ac odyno yn llym. mi a neidaf. yny vwyf an neill law hu. ac yno a ymysgyttwaf yny vo modrwyeu y lluryc yn dattodedic. val kyt bei crasgalaf vei eu defnyd. Dyoer. heb y gwarandawr. hen esgyrn yw dy teu di. ar gieu gwydna yssyd it. os gwir aaruaethy. Brengar bieu gware weithon. heb charlymaen. Parawt arglwyd wyfi y hynny. paret hu gadarn avory rodi cledyuen y varchogyon yn eu seuyll. ac eu blaenoed y vynyd. ydan y twr uchaf idaw. a mi aymellygaf o benn y twr yn un cwymp yny vwyf at vlaen y cledyneu. yny dorro en blaeneu yn diargywed ymi. Dyoer heb y gwarandawr. nyt dyn a dyweit yr awr honn. ac nyt corff dynyawl yw yr eidaw. namyn hayarn neu atmant. Os gwir a dyweit. Bernart bieu gware weithon. Yn llawen heb hwnnw. Yr auon awelsawch chwi gynneu odieithyr y dinas. mi ae trossaf oe chanawl. yny vo llawn yr ystradoed an tei. hyt na bo yny dinas lle heb dwfyr yndaw. ac yna y gwyl hu y niuer ar vawd ac ereill an nawf. ac a breid y dieinc hu ehun y benn y twr uchaf rae meint y morgymlawd. Dyoer heb y gwarandawr. nyt synhwyrus y dyn a dyweit val hynn. a mi abaraf yn vote avery y vwrw or dinas am bwyth y gelwyd.
XII.—Y evrart digyrwyd y daw gware weithon. Mi awaryaf yn liawen heb ynteu. Paret hu gadarn avory llenwi perwyn o blwm brwt. a minheu a eistedaf yndi yny rewho ym kylch. ac yna ymysgytwaf yny el kwbyl or plwm y wrthyf. Dyoer. heb y gwarandawr. hayarn nen dun yw cnawt hwnnw. or cwplaa y aruaeth. Naymer. gware ditheu weithon. Mi awnaf arglwyd. heb ynteu. Heulrot yssyd ym o groen ryw byse. ac a honno avory am vympenn mi a sauaf gem bronn hu pan vo yn kinnawu. a mi a vwyttaf ygyt ac ef. ac a yfuaf heb gygraf arnaf. a mi a gymeraf hu erbyn y deu droet ac ae dodaf. yn y seuyll an y benn. ar warthaf y bwrd. ac yna y byd kynhwryf mawr. ac ymffust yny neuad. a phawb onadunt yn ymgnith ae gilyd. Diamheu heb y gwarandawr. colli or hwnn y bwyll. ac ny bu gerth pwyll y gwr a lettyei y ryw bobyl honn. Gwaryet bertram bellach. Parawt wyfi heb ef. Mi agymeraf dwy taryan avory. un o bop tu ym megys dwy adein. ac aesgynnaf dan ehedec ar benn y mynyded uchaf awelsawchi doe. ae a ymdyrchanaf yr awyr trwy yr wybyr dan ysgytweit y taryanneu o bop tu ym. odeuawt edyn amysgawn. val ym gweler oduch yr holl adar. A mi a yrraf ffo. ar wyth milltyr odieithyr y dinas. ar yr holl vwystuileit odieithyr y coedyd. an emeith a diwyll y tired rac ofyn yr edyn. Nit digrif. heb y gwarandawr. y gware hwnn. namyn dihirwch. a chollet a vac y vonhedigyon a digrifhey o hely. Gereint. heb y charlymaen gware ditheu weithon. Mi awnaf arglwyd. y mae twr uchel yn emyl hu. a philer ympenn y twr. Doter dwy geinnawc a chledyf noeth yn gynnunyawnet ac yn gyngywreint ac y bwrwyf yr uchaf yn digyffro yr issaf. a heb y hyscogi oe lle. ac a ordiwedaf y cledyf kyny syrthyaw yr llawr. Llyma. heb y gwanandawr. y gware dewissaf gennyf o honunt. canys kywreinach a llei yndaw o gywilyd y hu noc yn yr un or lleill.
XIII.—A gwedy daruot udunt y gwaryeu hynny. kyscu aorugant. Ar gwarandawr a doeth hyt at hu. ac a dywat idaw y geir yny gilyd val y dywedassei y ffreinc. gan achwanegu o ethrot arnunt. val y gwna anhydywr oe arglwyd. yny vu gyflawn hu o lit. Ac yna y dywat hu trwy y lit, bot yawnach y charlymaen. pan vei vedw. kysgu no gwatwaru am vrenhined. neu y kellweiraw. neu a obrynnassem nynheu yn. kellweiraw o diffyc anryded. a gwassanaeth yny letty. neu a gaffei ynteu a vei well yny wlat ehun. ar kellweir ar gwatwar a orugant. ac a dywedawssant. mi a vynnaf avory udunt eu cwplau. ac onys gallant. ni a diaiwn amnynt eu gwac vocsach o nerth yn breicheu. an eledyueu. A phan doeth y dyd trannoeth. hu aberis y gant o varchogyon gwiscaw ymdanunt arueu a dillat ar eu gwarthaf y eu cudyaw. Ar marchogyon a orugant val y gorchymynnwys hu udunt. a dyuot yr neuad y eisted ygkylch y brenhin.
XIV.— Brenhin ffreinc ynteu. val yd oed deuawt gantaw. awarandawawd bylgein. ac offeren. ac onyeu yr dyd. a gwedy hynny dyuot yr neuad a oruc. a phan doeth y dechreuis hu ymliw ac ef yn ehwerw. Paham charlymaen. heb ef. y kellweirut ti vivi am gwyrda neithwyr. pan oed iawnach it orphwys. a chyscu gwedy dy veddawt. Ac ryw anryded hwnnw a teleisti y hu gadarn am y letty ae enryded. Ac velly y mae deuawt gennychi talu y anryded yr neb ae annydedho. ac ef a vyd reit y chwi cwplau hediw oc ych gweithredoed. ac onys cwplhewch. yn dal ych gwae uocsach. chwi awybydwch peth yw awch yn cledyueu ni. Kymryt kymraw aoruc charlymaen gan yr ymadrawd hwnnw. a racuedylyaw ychydic. ac yn atteb idaw y dywat. Oia vrenhin kyssegredic anrydedus. eb ef. paham yr peth gorwac diffrwyth y bydy lidiawc di. ac y kyffry dy brudder. ath doethineb. yr dywedyt ynvyttmwyd a masswed. on neb avedweisti dy hun oth wirodeu da. ac ny wydem ni vot neb yth ystauell ti. namyn ny hunein. A deuawt yn gwlat ni oed gwedy diawt prydu geireu hwaryus y chwerdit amdanunt. am gwpihau hagen y geireu a dywedy di. mi a ymdidanaf am gwyrda. ac ogyt gyghor ti a geffy atteb. Dos titheu y gymryt gyghor. ac nyt oed le y ymgyghor am yr hynn ny allei. vot. a gwybyd di pan diegych di ygennyfi. na chellweiry di vrenhin arall y vyth.
XV.—Ac yna yd aeth charlymaen y le dirgel. of ae wyrda y gymryt y kyghor. Ha wyrda heb ef. neun twyllwys y gyuedach neithwyr yn dybryt. o ymadrodyon fly wedei y hudolyon eu traethu. neu y groesanneit. ac edrychwch ynn pa delw yd ymdiaghom y wnth vygwth hu gadarn. Bit yn gobeith. heb y turpin. yn duw or nef. ac archwn idaw dwywawl gyghor or dihewyt yn bryt. Ac yna dygwydaw yn eu gwedi rae bronn y kreireu kyssegredic aorugant. a gwarandaw eu gwedi aoruc duw. ae anuon angel oe hyfuryttaw. ac y gadarnnhau eu medwl. gan ednych eu halltuded. ac erchi y charlymaen kyuodi yvynyd. amenegi idaw gwarandaw o duw y wedi. yr hwnn yssyd gedernyt didramgwyd y hop gwann. ac ef ae cwplaei trwy nerth duw yr hynn a dewissei hu or holl waryeu. a gorchymynn y charlymaen na vanagei y neb y gennadwri dwywawl honno.
XVI.—Kyuodi yn llawen hyuryt aoruc charlymaen. oe wedi. a hyuryttaw y wyr a dyuot yn y lle yd oed hu. Arglwyd vrenhin, heb ef. gan dy gannyat. mi a ymadrodaf athi. Neithwyr yd oedem ni yn gorffowys yth ystauell di. yn diogel genhym rae na thwyll na brat nac ygennyt nac y wrthyt. sef yd ymdidanassom val yd oed deuawt genhym yn an gwlat o dnaethu gwaryeu. Sefyd oedut titheu yn mynnu cwplau y gwaryeu hynny trwy weithret. Dewis y gware a vynnych yn gyntaf. M1 adewissaf. heb yr hu. Oliver adywat peth anaduwyn. y gallei ef kytyaw ganweith yn un nos a merch i. Ef a geiff y verch. heb ef. ac ny lywyo hu gadarn teyrnas o law hynn. o byd unweith yn eisseu or cant o byd didial. nac euo nac un or ffreinc. Gowenu aoruc charlymaen. ac ymdinet ynduw a dywedut. Ac ny barnaf ynheu vot yn vadeuedic idaw ef yr un. Y dyd hwnnw a treulwys y ffreinc yn llewenyd a digrifwch. a chwaryeu. ac ny omedit wy yny llys o dim aerchynt. ac or a debyckit y vynnu ohonunt, A phan doeth y nos ef a ducpwyt y vorwyn at oliuer yr ystauell. A phan weles y vorwyn Oliver. y gofynnwys idaw. A unben bonhedic. heb hi. Ac y lethu morynyon oth ormod waryeu y. deuthosti yma. Vygkaredic heb ef. na vit ofyn. arnat. O chredy di ymi. ys mwy o lewenyd adigriuwch a vac vyggwaryeu i yti nac o dristit. A gorwed ygyt aorugant. ac ymgaru ar vorwyn yn serchawc aoruc. a hynny heb nemawr gohir. ef a gyttyawd a hi bymthegweith. Ar vorwyn a vlinawd yn vawr. ac awediawd oliuer arbet idi. rac mon ieuanc oed. a gwannet y hannyan. a thygu idaw or cwplaei y rif aedewis. y byd varw hi yn diannot. Ac yna y dywat Oliuer. O thygy di. heb ef. cwplau ohonafi y riuedi a edewis. mi a arbedaf it wrth dy ewyllys. Y chret a rodes y vorwyn idaw ar tygu ohonei trannoeth get bronn hu. Ac ynteu aarbedawd idi. ac nyt aeth y nos honno dros ugeinweith.
XVII.—A phan dwyrwys y dyd drannoeth. y doeth hu y drws yr ystauell. a gofyn a gwplassei y riuedi a dywedassei. Do ysgwir. arglwyd heb hi. gan achwanec. Y brenhin yna trwy y lit a dywat vot yn tebic gantaw. y mae trwygyuarwydon ygwnaethoed ef hynny. a dywedut. cam a wneuthum inheu llettyu hudolyon. A. mynet aoruc hyt at charlymaen y lle yd oed yn eisted yn y neuad. ae wyrda yny gylch. a dywedut wrthaw val hynn. Charlymaen. heb ef. y mae y gware kyntaf yn dangos dy vot ti yn hudawl. A mi a vynnaf etwa ethol arali. Yn llawen. heb y charlymaen. ethol yr un a vynnych. Byrryet Wiliam o orreins y bel hayarn val y hedewis. ac o diffyc dim oe edewit. ny dyffic vygkledyf i om deheu i. yn ych llad chwi, Gwilym o orreins a vyrrywys y vantell y wrthaw yn diannot. ac a derchauawd y bel hayarnn val y hedewis oe lawn nerth dyrnawt an y gaer. yny vu cant kyuelyn an y gaer trwydi yr llawr. Llityaw aomuc hu yn vawr am bynny. yn vwy no meint. a dywednt wrth y wyrda. Nyt tebic a welafi wyrda. heb ef. y hwary. namyn y gyuarwydon. ac y mae eu gweithnedoed yn dangos herwyd y tebygafi eu bot y amwyn vyn teyrnas i. oc en swynneu. Etholet hu gadarn etwa y gware a vynno. heb y charlymaen. o digrifuaa y vedwi gan yn chwaryeu ni. O dichawn bernart. heb hu. dwyn yr auon odieithyr y dinas ymywn. dyget. Yna y dywat bernart. gwedia arglwyd vrenhin yn gadarn val y cwplao duw an ny a allom ni y gwplau. Dos di yn dipryder. heb y charlymaen. a bit dy obeith yn duw. y gwr nyt oes dim anwybot idaw. ac an ny ellych di y gwplau. euo ae cwpia. Ac yna yd aeth bernart gann ymdiret yn duw parth ar anon, a gwedi gwneuthur arwyd y groc am y dwfyr. y dwfyr a ufydhaawd yr gorchymynuwr. ac a ymedewis ae channawl. ac y ymlit y tywyssawe aoed or blaen. yny doeth yr dinas ymywn. Yna y gwelas hu gadarn y niueroed at vawd. ac ar nawf yn y tonneu. ac y ffoes ynteu yr twr uchaf idaw. ac nyt oed diogel gantaw yno. Ac y dan y twr hwnnw oed brynn uchel. ac yno yd oed charlymaen ae getymeithon yn edrych an newyd diliw bernart. ac yn gwarandaw ar hu yn rodi gouunet y duw yar vann y twr yr peidyaw y morgymlawd hwnnw. a dywedut y rodei y wrogaeth y vrenhin ffreinc. ac yd ystygei. ac ef. ae gyuoeth oe benndeuigaeth ef.
XVIII.—A phan gigleu charlymaen y geireu hynny. kyffro aoruc an trugared. a gwediaw duw y beidyaw or dwfyr hwnnw. ac y ymhoelut dracheuen. ac yn diannot yd aeth y dwfyr oe le val kynt. Ac yna disgynnawd u or twr. ac y doeth yny oed eharlymaen. a dodi y dwylaw ygyt y rwg dwy charlymaen. a gwrthot v amherodraeth arnaw. ae chymmyt y gantaw oe law oe daly y danaw ef. a chan y gyghor. Ac yna y gouynnwys charlymaen y hu a vynnei ef cwplau y gwaryeu. Na vynnaf. heb yr hu. ys moe a wna y gwaryeu hynny o dristit ym noc o lewenyd. Kyrnerwn ninheu. heb y charlymaen. y dyd hwnn yn llawen anrhydedus. can duc duw nini yn tagnouedwyr. a charyat y ryghom. gan gwplau ohonaw ef yr hynn ny allem ni y gwplau. a gwnawn processiwn ygkylch yr escopty. ac yny vo mwy enryded y dyd. gwiscwn an coroneu. a cherdwn gyuarystlys y yrndangos ymplith yn gwyrda. Kyfunaw aorugant. a cherdet gyuarystlys. a phawb yn edrych arnadunt yn graff am eu gwelet yn eu gwisc vrenhinawl. A mwy oed charlyrnaen no hu ar nod troetued. ac a berthynei ar hynny o let yny dwy ysgwyd. Ac yna y bu amlwc gan bawb o wyrda ffreinc vot yn gam a barnassei y vrenhines am hu. ac ar charlymaen yd oed y ragoreu. A gwedy y processiwn hwnnw. Turpin a gant udunt offeren yn anrydedus. a gwedy yr offeren wynt a gymmerassant y gantaw bendith archesgobawl. ac yr llys y doethant. ac yr byrdeu yd aethant. ac nyt oed hawd y berchen fauawt menegi y gyniver amryw. ac amryuaelon anregyon a gostit yno. a drythyllwch. ac esmwythder. A phan teruynwyt y wled honno. hu a beris dangos y charlymaen y tryzor. ae eurdei y rodi idaw yr hynn a vynnei oe dwyn gantaw y ffreinc. Nyt ef a darffo. heb y charlymaen. nyt o gymryt rodyon y gwnaethpwyt brenhin ffreinc. namyn oe rodi yn ehaleth. ac nyt reit dwyn tryzor y ffreinc. rac llygru eu bryt. ac eu syberwyt. namyn llyna aoed yno llawer o wyr ymlad da. a docnet o arueu da y eu kynnal.
XIX.—Ac yna y doeth merch hu gadarn at oliuer y eruyn y dwyn ygyt ac ef y ffreinc. ac oliuer aedewis idi hynny. Os gattei hu gadarn. Ac ny adei hu y verch y wrthaw mor bell a hynny. Ac yrla y menegis charlymaen y bawp oe wyr. vot eu hynt parth a ffreinc. Ac yna ysgynnu ar eu meirch a orugant, wedy y ymwahanu yn garedic. a mynet dwylaw mwnwgyl yn llawen hyuryt. Ac yna yd aethant gwyr ffreinc oeu gwlat. a llawen oed ef charlymaen yna. am ryystwng o hu idaw heb ymlad. nac ymdaraw. na cholli un gelein. Ac wynt a doethant y ffeinc val y daruu gyntaf udunt. a llawen vuwyt wrthunt yno. a diolwch y duw vot yn rwyd racdunt eu pererindawt ac eu hynt. A gorffwys aorugant. a bwrw eu lludet y wrthunt. Ac yna yd aeth charlymaen val yd oed deuawt gantaw kynno hynny. mynet y eglwys seint dynys y wediaw rac bronn yr allawr. ac y diolwch y duw bot yn rwyd y hynt racdaw. ae bererindawt. a gwedy offrymu yr allawr o offrwm teilwg. rannu aoruc y creireu a dathoed gantaw y eglwysseu ffreinc. a rodi kerennyd aoruc yr vrenhines. a madeu idi y godyant ae gewilyd.
XX.—Hyt yma y traetha ystorya a beris Reynallt. vrenhin yr ynyssoed y athro da. y throssi o weithredoed charlymaen o rwmawns yn lladin. ac amrysson y vrenhines val y traethwyt uchot oll. ac nyt ymyrrwys turpin yn hynny. cannys gwr eglwyssic oed. a rac gyrru arnaw beth gorwac ny pherthynney ar leindit. O hynn allan y traetha turpin o weithredoed charlymaen yn yr yspaen. ac o enw duw a iago ebostol. val yd estygwyt y wlat honno y gret crist. Ac val y bu y kyfrageu hynny. y pens turpin eu hyscriuennu yn lladin. ac vai y dyallei bawp wy aei gwelei o genedyloed aghyfyeith. a hynny oll yn enw charlymaen ar volyant ac enryded idaw. ac amherawdyr ruuein. a chorstinobyl. y gwyr a vuassei ygyt. ac yghyt oessi. yny kyfrageu hynny. Ac yn kymryt gwelioed a gouut yndunt oc eu dechreu hyt eu diwed ol yn ol yn dosparthus val y buant. ac y dichawn pawb oc au darlleo. neu eu gwarandawho. na oruc ef dim yn orwac. namyn perued y wirioned wedy eu dyall o ysbrydawl gyghoreu. a berthyn ant ar volyant crist. a llewenyd egylyon nef. a lles y eneiteu gristonogyon ae gwaranndawho.
SOURCES
Peniarth MS 5. Llyfr Gwyn Rydderch
Jesus MS 111. Llyfr Coch Hergest
TRANSLATION:
Selections from the Hengwrt Mss. Preserved in the Peniarth Library. Williams, Robert, ed. & trans. London: Thomas Richards, 1892.
NOTE:
The manuscript (or scripts) used by Williams is not identified in his translation, nor in the Welsh edition in his book. However, I know that the text is in the Red Book of Hergest, in an edition which closely follows the Rhydderch edition. Thus, I felt it only useful to put up this version, as I know of no other translation of this text.