Englynion Cad Goddau
Pen 98b, 81-2.
Val dyma yr Englynion a ganwyd pan cad goddau, ereill a'i geilw cad Achren, ac o achos iwrch gwyn a cheneu y bu, ac o anwn yr hanoedd hwynt, ac Amathaon ap Don ai daliodd. Ac am hynny yr ymladdodd Amathaon ap Don ac Arawn vrenin anwn, a gwr oedd yn y gad oni wyped i henw ni orfyddit arno; a gwreic oedd yn y tu arall a elwid Achren, ac oni wypid y henw ni orfyddit arnunt. A Gwidion ap Don a ddychymygawdd henw y gwr ac a ganodd y ddau Englyn sy yn canly.
Carngraf vy march rhagotoyw
Benn Olgen gwera ar yasforyw
Bran ith elwir briger loyw
Ac fal hyn.
Carngraff dy farch yn y dydd cad
Bann blaen gwern ar dy angad
Bran lorgric ai vrig arnad
Y gorfu Amathaon mad
Gwydion ap Don ai cant
SOURCE Myvyrian Archaiology. p127. Translation here.