Gwarchan Cynfelyn
ma weithyon e dechreu Gorchan Kynvelyn.
Pei mi brytwn
Pei mi ganwn;
Tardei warchan gorchegin.
Gweilging torch trychdrwyt
Trychethin trychinfwrth.
Kyrchessit en avon
Kynn noe geinnyon.
Tyllei garn gaffon;
Rac carneu riwrhon.
Ryveluodogyon.
Esgyrn vyrr vyrrvach varchogyon.
Tyllei ylvach
Gwryt govurthyach.
Ryt gwynn rae eingul
Yawn llad. yawn vriwyn vriwyal.
Rach canhwynawl cann.
Lluc yr duc dyvel
Disgynnyal alel.
Y bob dewr dy sel.
Trwy hoel trwy hemin;
Trwy gibellawr a gemin.
Ac eur ar dhrein
A galar dwvyn dyvyd;
Y wynnassed velyn.
E greu oe gylchin;
Keledic ewyn.
Med mygyr melyn.
Eil creu oe gylchyn;
Rac cadeu kynvelyn.
Kynvelyn gasnar
Ysgwn bryffwn bar.
Goborhtyat adar
Ar denin dwyar.
Dyrreith grad voryon;
Adan vordwyt haelon.
Kyvret kerd wyllyon;
Ar welling diryon.
Teyrn tut anaw
Ysemu e gwynaw;
Eny vwyf y dyd taw.
Gomynyat gelyn;
Ehangsett ervyn.
Gochaw kyrd keinmyn;
Yw gwarchan kynvelyn.
Gorchan kynvelyn kylchwy wylat;
Etvyn gwr gwned gwyned e wlat.
Dychiannawr dewr dychianat.
Eidyn gaer gleissyon glaer
Kyverthrynneit.
Kein dy en rud enys gwerth
Ruduolawt ved meirch
Eithinyn neut ynt blennyd.
Gwarchan kynvelyn ar ododin
Neus goruc o dyn dogyn gymhwylleit.
E wayw drwn oreureit am rodes
Poet yr lles yw eneit.
Etmygir e vab tecvann;
Wrth rif ac wrth rann wyr catvan
Colovyn greit.
Pan vyrywyt arveu
Tros benn cat vleidyeu
Buan deu en dyd reit.
Try wyr a thrivgeint a thrychant
I vreithyell gatraeth y d aethant.
Or sawl yt gryssyassant
Uch med menestri; namyn tri nyt atcorsant.
Kynon a chadreith. a chatlew o gatnant.
A minhe oni creu dychiorant.
Mab coel kerth vygwerth y a wnaethant;
O eur pur a dur ac aryant.
Evnyvet nyt nodet e cawssant;
Gwarchan kyrd kynvelyn kyvnovant.
Eman e tervyna Gwarchan Kynvelyn.
SOURCE:
The Four Ancient Books of Wales. ed. by William F. Skene. Edinburgh: Edmonston and Douglas, 1868.