Gwarchan Tudfwlch
man Edechreu Gorchan Tutwulch
Aryf angkynnull angkyman dull; twryf en agwed.
Erac menwed. erac mawrwed. erac matyed.
Pan ystyernn gwern e am gam gyrn. e am gamgled.
E uoli ri. alluawr. peithliw racwed.
Yd i gweles; ar hual tres tardei galled.
Dygochwiawr a chloi a phor; a pherth a pher;
A rud uorua ac y morua. ac ewyonydd
A gwynheidyd kein edryssed.
Trybedawt rawt rac y devawt; eil dal rossed.
Taryaneu bann am dal hen banu by edryssed.
Bleid e vytwyt oed bleidyat ryt eny dewred.
Pubell peliedyr pevyr pryt neidyr. o lwch nadred.
Welyd yd wyt gwelydon rwyt riein gared.
Carut vreidvyw carwn dy vyw; vut heywred.
Camhwrawc darw kwynaf dy varw. carut dyhed.
Baran mor ygkynhoryf gwyr. y am gatpwll.
Ymwan bran yg kynwyt.
Tardei donn gyvryngon gowydawc byt.
Ef gwrthodes ar llwyth peues; ar lles pedyt
Petwar lliwet. petwar milet miledawr byt.
Aessawr yn nellt allavyn eg wallt. un o bedror
Gwr gwyllyas. o gyrn glas med meitin
Gwr teithiawr o blith porfor prothloed bedin.
Breeyth tutvwlch baranret dost. benongwaed gwin.
Yr med a fawryf yd aethant aeryf dros eu hawfin.
Gwyalvan weith er cadw kyvreith bu kyvyewin.
Kynon kenon teithvyw o von. ar vreint gorllin.
Tutvwlch kyvwlch aoreu vwlch ar vann caereu.
Gan vynydawc bu atveillyawc eu gwirodeu.
Blwydyn hiraeth er gwyr gatraeth am maeth ys meu.
Eu llavneu dur eu med en bur eu haualeu.
Aryf angkynnvll angkyman dull twryf neus kigleu.
Ac e velly e tervyna.
SOURCE:
The Four Ancient Books of Wales. ed. by William F. Skene. Edinburgh: Edmonston and Douglas, 1868.